Gweithredu ar y cyd ar wastraff bwyd yn arbed £67 miliwn i’r sector gwasanaeth lletygarwch a bwyd dros dair blynedd

10th January 2017

Mae busnesau yn y DU a fu’n rhan o Gytundeb y Gwasanaeth Lletygarwch a Bwyd (CGLlaB) wedi arbed amcangyfrif o £67 miliwn drwy eu gweithredoedd cyfunol i atal gwastraff bwyd dros gyfnod o dair blynedd o 2012 hyd 2015.

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o’r adroddiad terfynol ar gyflawniadau’r rhai a ymrwymodd i’r cytundeb gwirfoddol, a gafodd ei ddatblygu a’i reoli gan WRAP ar ran llywodraethau’r DU.

Roedd dau darged o dan y CGLlaB, a’r ddau o dan berchnogaeth WRAP ac yn cael eu cyflawni ar y cyd gan lofnodwyr: 

  • Targed atal: Lleihad o 5% mewn gwastraff bwyd a phecynnau cysylltiedig erbyn diwedd 2015. Roedd hyn yn erbyn gwaelodlin 2012 a chafodd ei fesur ar arbedion CO2e.
  • Targed Rheoli Gwastraff: Cynyddu’r gyfradd gyflawn o wastraff bwyd a phecynnau a gaiff ei ailgylchu a’i anfon i’w dreulio’n anaerobig neu i’w gompostio i o leiaf 70% erbyn diwedd 2015.
Roedd llofnodwyr y CGLlaB yn arbennig o lwyddiannus wrth leihau gwastraff bwyd a phecynnau yn eu sector, yn cyflawni tu hwnt i’r targed o 5% ac wedi cyflawni lleihad o 11% yn erbyn y waelodlin*. Roedd y gostyngiad blwyddyn olaf mewn gwastraff 31,000 tunnell yn is na’r waelodlin, sy’n gyfwerth ag 80,000 tunnell yn llai o CO2e.
 
Mae gweithgareddau atal gwastraff bwyd wedi arbed amcangyfrif cyfunol o 24,000 tunnell o fwyd rhag cael ei daflu dros dair blynedd y CGLlaB, sy’n gyfwerth â 48 miliwn o brydau bwyd** gyda gwerth i fusnesau o £67 miliwn. 
 
Mae ailddosbarthu bwyd dros ben hefyd wedi dyblu yn ystod y cytundeb i 760 tunnell, sy’n gyfwerth ag 1.5 miliwn o brydau bwyd.
 
Cyflawnwyd y targed hwn drwy nifer o weithredoedd, yn cynnwys creu grŵp gwaith atal gwastraff bwyd a datblygu a darparu hyfforddiant. Roedd gweithio gyda llofnodwyr i fonitro a mesur gwastraff bwyd er mwyn amlygu cost gwastraff yn hanfodol wrth yrru newidiadau er mwyn gwella effeithlonrwydd gweithredol, arbed arian a chynyddu boddhad cwsmeriaid. Cynhyrchwyd canllawiau arfer gorau ar gyfer y sector hefyd.
 
Roedd yr ail darged CGLlaB yn canolbwyntio ar wella rheoli gwastraff yn gyffredinol, gyda llofnodwyr yn gweithio i gynyddu’r gyfran gyfunol o wastraff bwyd a phecynnau a ailgylchwyd, neu a anfonwyd i dreulio anaerobig neu gompostio i o leiaf 70% yn eu sector. 

Arweiniodd gwelliannau sylweddol yn ffrydiau ailgylchu bwyd a phecynnau at gynnydd o un rhan o dair ar y flwyddyn gwaelodlin a chanlyniad terfynol o 56% (i fyny o 42%). Roedd y cynnydd hwn yn bosibl drwy nifer o weithredoedd yn cynnwys creu grŵp gwaith rheoli gwastraff. Cynhyrchwyd canllawiau arfer gorau ar gyfer y sector hefyd, ac fe gynigiwyd cymorth dechnegol i fusnesau i adolygu gwasanaethau rheoli gwastraff presennol a chynorthwyo gyda datblygu cynlluniau newydd drwy gymalau cytundeb ar gyfer casgliadau gwastraff bwyd ac ailgylchu.
 
Steve Creed, Cyfarwyddwr Rhaglenni Busnes, “Rydw i’n falch iawn o gyflawniadau llofnodwyr y CGLlaB, a wnaeth gynnydd ardderchog. Mae’r sector wedi cymryd camau enfawr ymlaen wrth weithredu mesurau i atal gwastraff bwyd ac wedi gwireddu buddion unigol ac i’r sector cyfan. Er ei bod yn siomedig nad yw’r targed rheoli gwastraff wedi’i gyrraedd yn llawn, mae gwelliannau mawr wedi’u gwneud. Mae gweld ailgylchu gwastraff bwyd yn cynyddu o dros hanner, a phecynnau o bron 70% gan y llofnodwyr yn drawiadol iawn. Ac mae bron i 100,000 tunnell o wastraff bwyd a phecynnau wedi symud i fyny’r hierarchaeth gwastraff i lefel ailgylchu.”
 
“Mae’r CGLlaB wedi’i brofi yn gatalydd i’r diwydiant, yn cynnig yr ysgogiad a’r ysbrydoliaeth i helpu newidiadau mawr ddigwydd yn y ffordd y mae’r sector yn gwneud busnes, ac arbed arian iddo ar yr un pryd. Y cam nesaf yw adeiladu ar y gwaith da hwn gyda Courtauld 2025 a chael rhagor o fusnesau’n gweithio ar y cyd i wneud effeithlonrwydd adnoddau yn ganolog i sut mae ein cadwyn gyflenwi’n gweithredu, o’r fferm i’r fforc.”
 
Mae’r Ymrwymiad Courtauld 2025 yn un uchelgeisiol, sy’n gobeithio torri i lawr ar y gwastraff a'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â bwyd a diod yn y DU o leiaf un rhan o bump y pen, a lleihau effaith defnydd dwr gydag arbedion cyfunol o thua £20 biliwn. Mae’n creu partneriaethau ar draws y gadwyn cyflenwi bwyd drwyddi draw ac mae nifer o lofnodwyr CGLlaB eisoes wedi’u hymgysylltu mewn grwpiau gwaith, yn treialu dull i helpu’r sector fonitro a mesur bwyd dros ben, a disgwylir iddo gael ei weithredu yn 2017.
 
Dywedodd y Gweinidog Michelle McIlveen, Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ran Gogledd Iwerddon, “Croesawaf lwyddiannau’r cytundeb gwirfoddol pwysig hwn. Mae’n adlewyrchu’r ymrwymiad a’r gwaith caled gan lofnodwyr a chefnogwyr i rwystro bwyd rhag cael ei wastraffu ac i reoli adnoddau yn well mewn busnes. Yn benodol, mae eisiau llongyfarch llofnodwyr yng Ngogledd Iwerddon, City Hotel Derry ac Andras House ar eu llwyddiannau a’u hymroddiad i’r Cytundeb hwn. Mae nifer o lofnodwyr y CGLlaB yn gweithredu yng Ngogledd Iwerddon a gyda’i gilydd maen nhw’n helpu gyda’n hymdrech i leihau gwastraff, dod yn fwy effeithlon gydag adnoddau, a byw yn fwy cynaliadwy.”
 
Mae Llywodraeth Cymru yn un o lofnodwyr y Cytundeb GLlaB. Meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, “Rydyn ni’n llwyr gefnogi’r fenter hon ac mae’r cynnydd da a wnaed o ganlyniad i’r Cytundeb yn galonogol. Yng Nghymru, mae torri i lawr ar faint o fwyd rydyn ni’n ei waredu yn ddiangen wedi’i adnabod fel blaenoriaeth allweddol yn ein strategaeth gwastraff, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, ac mae’n cyfrannu at amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”
 
“Mae’r cynnydd a wnaed gyda darparwyr bwyd cenedlaethol y DU ac yn enwedig yng Nghymru, o fewn y sectorau addysg ac iechyd a gan y busnesau twristiaeth llai, fel y dangosir yn yr astudiaethau achos, yn ein calonogi.”
 
Diwedd
Nodiadau i’r golygydd
  • *Y flwyddyn gwaelodlin i’r rhan helaeth o’r llofnodwyr oedd 2012, ond ymunodd rhai â’r cytundeb yn 2013 ac felly honno oedd eu blwyddyn gwaelodlin.
  • **Ar sail pwysau pryd o fwyd o 500g.
  • Adroddiad terfynol CGLlaB/HaFSA Final Report. Mae hwn yn cynnwys cyfres o astudiaethau achos yn cynnwys Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (SSIA); Compass/Restaurant Associates; KFC; Inspire Catering; Y Weinyddiaeth Amddiffyn; Sodexo UK & Ireland; ac Unilever Food Solutions UK.
  • Crëwyd y CGLlaB er mwyn mynd i’r afael â’r gwastraff bwyd a phecynnau yn y sector a adnabuwyd gan WRAP. Fe’i datblygwyd gan WRAP gyda’r diwydiant ac ar gyfer y diwydiant, a chaiff ei gefnogi gan holl lywodraethau’r DU. Cydweithiodd dros 230 o lofnodwyr a chefnogwyr o dan y CGLlaB, sef tua 25% o’r sector yn y DU o ran gwerthiant bwyd a diod yn cynnwys cyfanwerthu a dosbarthu.
  • Ymestynnodd y CGLlaB ei gyrhaeddiad hefyd drwy nifer o fentrau a ddarparwyd ar y cyd â chefnogwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth am atal gwastraff, cynyddu cyfraddau ailgylchu yn gyffredinol a rhannu arfer da ar draws y sector. Roeddent yn cynnwys datblygiu canllaw ar gyfer y Gymdeithas Arlwywyr Ysbytai, a gweithio gydag adrannau’r llywodraeth fel y Weinyddiaeth Amddiffyn ar atal gwastraff.
  • Dangosodd adroddiad WRAP “Overview of waste in the hospitality and food service sector” y gwastreffir 1 miliwn tunnell o fwyd yn y DU gan y sector gwasanaeth lletygarwch a bwyd yn flynyddol, gyda chost o £2.5 biliwn. Mae’n gyfwerth â gwastraffu 1.3 biliwn o brydau bwyd, neu un ym mhob chwe phryd a weinir. 
  • Wedi’i sefydlu gyntaf yn 2000, Mae WRAP yn fudiad nid er elw ac yn elusen gofrestredig, a’n gweledigaeth yw byd ble caiff adnoddau eu defnyddio mewn modd cynaliadwy. Mae WRAP yn gweithio gyda llywodraethau, busnesau a chymunedau i ddarparu atebion ymarferol i wella effeithlonrwydd adnoddau.
  • Ein cenhadaeth yw cyflymu’r symudiad tuag at economi sy’n gynaliadwy ac yn effeithlon gydag adnoddau drwy:
    a. ail-greu’r modd rydyn ni’n dylunio, cynhyrchu a gwerthu cynhyrchion,
    b. ail-feddwl sut rydyn ni’n defnyddio a bwyta cynhyrchion, ac
    c. ail-ddiffinio beth sy’n bosibl drwy ail-ddefnyddio ac ailgylchu.