
Mae WRAP Cymru yn rhan o WRAP, sef yr arbenigwyr economi gylchol. Mae WRAP yn gweithio gyda llywodraethau’r Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a chyllidwyr eraill i helpu i gyflawni eu polisïau ar atal gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau. Mae’n elusen gofrestredig (rhif 1159512) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant.
Mae WRAP wedi cyflawni ardystiad ISO9001:2015 ar gyfer y ffordd yr ydym yn cynllunio, datblygu, rheoli a chyflwyno rhaglenni a phrosiectau sy’n darparu atebion cynaliadwy o ran adnoddau.
Ewch i wefan WRAP i gael gwybod mwy. (Saesneg yn unig)
Mae WRAP Cymru yn darparu cymorth sy’n benodol i Gymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn cynnwys darparu’r Gronfa Economi Gylchol, cefnogaeth caffael ar gyfer y sector cyhoeddus, y Rhaglen Newid Cydweithredol ar gyfer awdurdodau lleol a'r ymgyrch Cymru yn Ailgylchu. Mae ein gwaith hefyd yn cynnwys rhaglenni sy’n gweithio ledled y DU, yn cynnwys The UK Plastics Pact.
Cysylltu â ni
I ddarganfod sut gallem eich helpu:
- ffoniwch ni ar 029 20 100 100;
- anfonwch neges e-bost atom ar cdf-admin@wrap.org.uk; or
- dilynwch ni ar Twitter @WRAP_Cymru.
Dolenni defnyddiol
- Ynglŷn â WRAP (Saeneg yn unig)
- Yr hyn y mae WRAP yn ei wneud (Saeneg yn unig)
- Pwy y mae WRAP yn gweithio gyda nhw (Saeneg yn unig)
- Canolfan Gyfryngau WRAP (Saeneg yn unig)