Field of bales wrapped in black plastic

Defnyddio Cynnwys Eilgylch – Prosiect o fewn y gadwyn gyflenwi

Treial Gwastraff Amaethyddol Polyethylen Dwysedd Isel (low-density polyethylene/LDPE) a Pholyethylen Dwysedd Isel Unllin (LLDPE)

Amcan y prosiect hwn yw arddangos llwyddiant wrth gynnwys cymaint â phosibl o haenen LDPE a LLDPE eilgylch ag sy’n dechnegol bosibl, mewn ymgais i annog mowldwyr cylchdroadol eraill i leihau eu dibyniaeth ar bolymer newydd. Bydd hyn yn sbarduno’r galw am haenen amaethyddol eilgylch yng Nghymru ac yn cyfrannu at economi gylchol Cymru.

Mae enghreifftiau o’r nwyddau a gynhyrchir trwy fowldio cylchdroadol yn cynnwys biniau allanol a chonau rheoli traffig, a gynhyrchir yn draddodiadol gan ddefnyddio polyethylen dwysedd uchel (HDPE) newydd.

Cliciwch yma i weld diweddariad ar gynnydd

Mae partneriaid y treial yn cynnwys: Axion Recycling Ltd (partner arweiniol); B&J Parr; Crompton Mouldings Ltd; and MDS Recycling Ltd.