Defnyddio Cynnwys Eilgylch – Prosiect o fewn y gadwyn gyflenwi

Treial Polyethylen Dwysedd Uchel (high-density polyethylene/HDPE) a Pholypropylen (PP) ar gyfer y Sector Adeiladu a Chludo Nwyddau Peryglus

Amcan y prosiect hwn oedd canfod, rhoi ar brawf a phrofi datrysiadau wedi’u seilio ar dystiolaeth ar gyfer ymgorffori cynnwys eilgylch yn cyfansoddian ysgafn polymer-sment; cyfansoddion papur-plastig gwastraf; a chynwysyddion wedi'u dylunio i gael eu hardystio gan y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cludo nwyddau peryglus.

Disgwylir y bydd datrysiadau sydd wedi’u profi’n effeithiol yn rhoi hyder i gynhyrchwyr bod modd defnyddio deunyddiau gwastraff isel eu gwerth i gynhyrchu nwyddau terfynol economaidd o ansawdd uchel. Ein gobaith yw lleihau’r ofn am y goblygiadau canfyddedig, yn cynnwys ofnau ynghylch defnyddio mwy o ynni, a gostyngiad mewn ansawdd.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Mae partneriaid y treial yn cynnwys: Nextek Ltd (partner arweiniol); Berry Global; Polymer Extrusions Ltd; Ecodek; Viridor; a Prifysgol De Cymru, Canolfan Profi Deunydd Uwch.