Mae arnom angen eich barn, eich syniadau, eich heriau a’ch awgrymiadau ar ba gamau y mae angen i breswylwyr, busnesau a sefydliadau Cymru oll eu cymryd i greu diwylliant cyffredinol o atgyweirio ac ailddefnyddio.
Rydym yn cydnabod yr angen dirfawr am arferion atgyweirio ac ailddefnyddio yn wyneb heriau amgylcheddol ac adnoddau.
Mae Cymru yn ail yn y byd am ailgylchu, felly gadewch inni barhau â’n hymdrechion a gosod y glasbrint yn fyd-eang ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio.
Byddwch yn rhan o Fyw’n Gylchol yng Nghymru
Beth mae ‘Diwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailddefnyddio’ yn ei olygu’n ymarferol?
Ar hyn o bryd, mae’r arfer o brynu’n newydd, defnyddio am gyfnod byr, a gwaredu’n gyflym yn un cyffredin yng Nghymru, ac felly hefyd yng ngweddill y DU a gwledydd Gorllewinol cefnog eraill.
Yn fyd-eang, gellir 45% cysylltu o allyriadau i’r model ‘cymryd-gwneud-defnyddio-gwaredu-ailadrodd’ hwn.
Er bod cynhyrchu nwyddau, fel dillad, ffonau ac eitemau i’r cartref ar raddfa fawr wedi golygu mwy o amrywiaeth, llai o gost, a gwell hygyrchedd, mae hefyd wedi arwain at niwed sylweddol i’r amgylchedd.
Mae’r ‘Strategaeth Mwy nag Ailgylchu’ yng Nghymru’n anelu at newid y cyfeiriad hwn drwy symud tuag at “ddiwylliant cyffredinol o ailddefnyddio, atgyweirio ac ailweithgynhyrchu yn ein cymunedau a chanol ein trefi”. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2026 yn ymrwymo i ddatblygu “80 o ganolfannau ailgylchu cymunedol mewn canol trefi” a “hyrwyddo cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio i annog siopa diwastraff.”
Fel rhan o’r gwaith ehangach hwn ar atgyweirio ac ailddefnyddio, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru WRAP i gynnal ymchwil a llunio set o gamau y mae eu hangen i’n symud tuag at ddiwylliant cyffredinol o atgyweirio ac ailgylchu.
Cynhaliodd WRAP Cymru weminar ddydd Mercher 31ain Gorffennaf i gyflwyno’r map trywydd.
Mae recordiad o’r gweminar ar gael yma: https://www.youtube.com/watch?v=admBqRMNRR0
Ymgynghoriad Cyhoeddus: Map Trywydd tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailddefnyddio
Mae’n bleser gan WRAP, ar ran Llywodraeth Cymru, wahodd holl breswylwyr, busnesau a sefydliadau Cymru i rannu eu barn, safbwyntiau ac arbenigedd ar y map trywydd ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio yng Nghymru.
Rhannwch eich barn
Gyda’ch cefnogaeth chi, dewch inni osod y glasbrint yn fyd-eang ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio.
Mae’r ymgynghoriad ar agor i breswylwyr, busnesau a sefydliadau Cymru.
- Cam 1. Darllen yr adroddiad cryno: Arolwg yr Ymgynghoriad ar ‘Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailgylchu yng Nghymru: Crynodeb ar gyfer yr Ymgynghoriad’
- Cam 2. Dechrau’r arolwg nawr: Arolwg yr Ymgynghoriad ar ‘Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailgylchu yng Nghymru: Crynodeb ar gyfer yr Ymgynghoriad’ (surveymonkey.com)
Fe welwch gymysgedd o gwestiynau sy’n ymwneud â’r map trywydd a chyfle i rannu eich barn, camau gweithredu a syniadau gyda ni. Bydd deall ychydig amdanoch chi yn ein helpu i sicrhau bod gennym olwg gyfunol ar yr adborth gan breswylwyr, busnesau a sefydliadau yng Nghymru.
Dyddiad cau: mae’r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Sul 20fed Hydref 2024.
Ni fydd unrhyw fanylion personol amdanoch yn cael eu rhannu o’r arolwg hwn. Gweler Telerau ac Amodau a Pholisi Data WRAP.
Cynhaliodd WRAP Cymru weminar ddydd Mercher 31ain Gorffennaf i gyflwyno’r map trywydd. Mae recordiad o’r gweminar ar gael yma: https://youtu.be/admBqRMNRR0
Lawrlwytho ffeiliau
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
-
Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailddefnyddio yng Nghymru
PDF, 722.4 KB