Businesses busy street

Newid ymddygiad dinasyddion

Creu newid cynaliadwy mewn ymddygiad

Dechreuodd gwaith WRAP o greu newid cynaliadwy mewn ymddygiad yn ôl yn 2000, pan lansiwyd ein brand Ailgylchu Nawr/Recycle Now ar gyfer ddinasyddion.

Ers hynny, mae ein dull o weithio wedi datblygu ac addasu, ond mae’n seiliedig ar waith ymchwil a gwerthuso cadarn o hyd. Rydym wedi meithrin y galluoedd sydd gennym fel sefydliad, ac rydym yn cydweithio’n strategol gyda phartneriaid ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt, yn cyfuno ein sgiliau er mwyn llwybro tuag at newid ymddygiad hirdymor.

Sut mae WRAP yn creu newid cynaliadwy mewn ymddygiad?

Rydym yn targedu segmentau o gynulleidfaoedd, ymddygiadau, a meysydd y gallwn gael yr effaith fwyaf arnynt. Trwy ddeall ein cynulleidfa darged, a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, rydym yn mynd ati i brofi, dysgu, ac addasu. Os na fydd rhywbeth yn mynd fel y disgwyliwyd, rydym yn darganfod pam, ac yna’n ei newid.

Ein nod yw cael pobl i ddeall pam mae angen iddyn nhw newid rhywbeth ac yna eu helpu i roi’r newid ar waith a chynnal arferion newydd.

Cynllunio ymyraethau newid ymddygiad

Mae gan WRAP dîm o arbenigwyr hynod alluog, gyda phrofiad o gynllunio, darparu a mesur atebion ac ymyraethau newid ymddygiad effeithiol. Mae’r cwbl wedi’i seilio ar ddirnadaethau trwyadl a manwl,  ac fe ddefnyddiwn ein dealltwriaeth o’r ‘broblem’ i ddatblygu atebion syml ac ymarferol sy’n sbarduno camau gweithredu y gellir eu mesur.

Cynnal ymgyrchoedd ar gyfer dinasyddion

Mae ymgyrchoedd WRAP ar gyfer dinasyddion yn grymuso unigolion i weithredu, drwy rannu negeseuon i ysbrydoli ynghyd â chyngor ymarferol. Rydym wedi cofleidio grym y cyfryngau cymdeithasol a defnyddiwn sianeli sy’n fwyaf tebygol o daro deuddeg ymysg cynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd, gan fesur a monitro’r traffig yn rheolaidd.

Mae ein portffolio o frandiau ac ymgyrchoedd yn cynnwys: Cymru yn Ailgylchu, Hoffi Bwyd Casau Gwastraff.

Cymru yn Ailgylchu

Fel rhan o’r brand Recycle Now, Cymru yn Ailgylchu yw’r ymgyrch ailgylchu cenedlaethol.

Ariennir a chefnogir yr ymgyrch gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi cael ei fabwysiadu gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ledled Cymru, a’i nod yw annog dinasyddion i ailgylchu mwy o bethau’n fwy aml o bob rhan o’u cartref.

Mae’n destun balchder mai gan Gymru mae’r gyfradd ailgylchu uchaf yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, a’r drydedd uchaf yn y byd.

 

Fy Ailgylchu Cymru

Mae Fy Ailgylchu Cymru wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rheoli gan WRAP Cymru. Mae gwefan My Recycling Wales yn caniatáu ichi edrych trwy awdurdodau lleol Cymru a gweld beth sy'n digwydd i ailgylchu a gesglir gan awdurdodau lleol, yn y Deyrnas Unedig a hyd yn oed dros y byd.

Mae'n cyflwyno data cyfoes ar:

  • Y gyfradd ailgylchu yng Nghymru yn ogystal ag ar gyfer pob awdurdod lleol unigol, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
  • Y gwasanaethau ailgylchu a ddarperir gan bob awdurdod lleol.
  • Cyrchfan ailgylchu a gasglwyd ar gyfer amrywiaeth o ddeunyddiau penodol, megis papur, metelau, plastig a gwydr, ar gyfer Cymru yn ogystal ag ar gyfer pob awdurdod lleol unigol.
  • Swm a math y deunyddiau ailgylchu penodol a gesglir yng Nghymru.

Ewch draw i’r tudalennau canlynol ar wefan www.wrap.org.uk i ddarganfod mwy am ymgyrchoedd WRAP