Abstract Circles

Derbynwyr Grantiau’r Gronfa Economi Gylchol

Mae WRAP Cymru wedi dyfarnu 21 grant cyfalaf i wneuthurwyr yng Nghymru hyd yma, ac mae cyfanswm y buddsoddiad – yn cynnwys arian cyfatebol – yn fwy na £11.9miliwn.

Dros gyfnod o dair blynedd, disgwylir y bydd hyn yn arwain at:

  • gynnwys 62,812 o dunelli o ddeunyddiau eilgylch ôl-gwsmer ychwanegol mewn nwyddau a gynhyrchir yng Nghymru;
  • atal 53,850 o dunelli o allyriadau CO2;
  • twf mewn trosiant o fwy na £70.86miliwn;
  • gwerth mwy na £1.47miliwn o arbedion cost; a
  • chreu o leiaf 103 o swyddi newydd.

Sgroliwch i lawr neu cliciwch ar y dolenni isod i ddarllen mwy am rai o’r gwneuthurwyr llwyddiannus a’u cynlluniau ar gyfer tyfu eu busnesau a’r economi gylchol yng Nghymru:

Addis Housewares Limited, Pen-y-bont ar Ogwr, dyfarnwyd £105,288.59

Ynghylch Addis Housewares Limited Sefydlwyd Addis Housewares yn 1780 ac mae’n cynhyrchu nwyddau ar gyfer y cartref. Mae’r cwmni’n cynnig amrywiaeth eang o nwyddau domestig a masnachol, yn canolbwyntio ar reoli gwastraff, glanhau, golchi dillad, storio bwyd, a nwyddau storio a nwyddau ger y sinc.
Y gweithgaredd i’w gefnogi O ganlyniad i’r grant bydd Addis Housewares yn gallu cynhyrchu biniau pedal 35 litr ar gyfer defnydd domestig a masnachol o ddeunydd 100% eilgylch.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Polypropylen (PP)
Y buddsoddiad cyfalaf Bydd pryniant y mowldiau angenrheidiol i gynhyrchu cydrannau’r biniau o PP 100% eilgylch yn cael ei ariannu’n rhannol gan y grant.

Astudiaeth Achos JC Moulding Addis Housewares Limited

 

AST Plastic Containers, Wrecsam, dyfarnwyd £375,000

Ynghylch AST Plastic Containers Sefydlwyd AST Plastic Containers yn 2011, ac mae’r cwmni’n cynhyrchu cynwysyddion ar gyfer hylifau peryglus. Mae eu nwyddau’n amrywio o gynwysyddion pum litr i 25 litr, ac fe’u cynhyrchir o bolyethylen dwysedd uchel crai (HDPE) ar hyn o bryd.
Y gweithgaredd i’w gefnogi O ganlyniad i’r grant, bydd AST Plastic Containers yn gallu cyflwyno cynnwys eilgylch i gynhyrchu cynwysyddion newydd a rhoi system dolen gaeedig ar waith a fydd yn golygu paratoi cynwysyddion ar gyfer eu hailddefnyddio a’u hailgynhyrchu. Bydd y broses newydd hon yn galluogi AST Plastic Containers i greu tair swydd cyfatebol â llawn amser newydd.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Polyethylen dwysedd uchel (HDPE).
Y buddsoddiad cyfalaf  Bydd pryniant peiriant niwtraleiddio, peiriant gronynnu gwlyb, allgyrchydd, echdynnydd ailgylchu, llinell olchi ac uned adennill dŵr yn cael ei ariannu’n rhannol gan y grant.

 

AWD Group Ltd, Port Talbot, dyfarnwyd £201,524.00

Ynghylch AWD Group Ltd

Mae AWD yn arbenigo mewn cyflenwi porthiannau plastig wedi’u hailbrosesu a gaiff eu cynhyrchu o wastraff a gafodd ei gasglu a’i ailgylchu o ffynonellau gwastraff adeiladu, masnachol a threfol.

Sefydlwyd y cwmni’n wreiddiol i ailgylchu uPVC o’r sector adeiladu, ond mae AWD wedi ehangu ei wasanaethau i gynnwys ailgylchu gwydr a phlastig caled cymysg. Mae’r cwmni nawr yn gweithredu’r cyfleuster ailgylchu plastigion caled mwyaf yn rhan ddeheuol y Deyrnas Unedig. Mae’r cyfleuster ym Mhort Talbot, a gaiff ei alw’n ‘Cylch’, hefyd yn ailgylchu plastigion caled cymysg i nifer o Awdurdodau Lleol Cymru a’r cyfleuster hwn sy’n gyfrifol am gyflawni cyfran sylweddol o dargedau ailgylchu plastig sector cyhoeddus Cymru.

Mae AWD yn ailgylchu tua 10,000 o dunelli’r flwyddyn o wastraff o Gymru, yn cynnwys 2,520 o dunelli o blastigion caled cymysg a 2,900 o dunelli o uPVC.

Y gweithgaredd i’w gefnogi

Mae AWD wedi canfod cyfle i gynhyrchu gronynnau a phelenni plastig fel deunyddiau crai i’w cyflenwi i gynhyrchwyr yng Nghymru. Mae cyflenwad porthiant o blastig purdeb uchel yn allweddol i gynhyrchu’r nwyddau hyn, a bydd prynu’r offer hwn yn galluogi gwahanu a phuro’r deunyddiau hyn, a chynhyrchu deunydd eilgylch o ansawdd uchel drwy ddefnyddio technoleg arnofio a golchi, a chynhyrchu deunydd eilgylch ar ffurf pelenni/gronynnau i’w defnyddio mewn diwydiant.

Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio HDPE/PP
Y buddsoddiad cyfalaf  Offer golchi ac ailbrosesu ar gyfer puro deunyddiau plastig

 

Capital Valley Plastics, Cwmafon, dyfarnwyd £116,039.99

Ynghylch Capital Valley Plastics Sefydlwyd Capital Valley Plastics yn 1987, ac mae’n cynhyrchu nwyddau polythen, yn cynnwys rhwystrau nwy, croen atal lleithder a chwrs atal lleithder ar gyfer y diwydiant adeiladu.
Y gweithgaredd i’w gefnogi O ganlyniad i’r grant, bydd Capital Valley Plastics yn cynhyrchu croen atal lleithder a chwrs atal lleithder wedi’i wneud 100% o ddeunydd eilgylch, sef peledi plastig wedi’u cynhyrchu o haenen blastig eilgylch a fyddai’n mynd yn wastraff fel arall.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Peledi polyethylen dwysedd isel (low density polyethylene/LDPE) wedi’i gynhyrchu o haenau lliwgar.
Y buddsoddiad cyfalaf  Bydd prynu a gosod peiriant echdynnu ar gyfer haenau plastig chwyddedig yn cael ei ariannu’n rhannol gan y grant.

Dyma fideo byr o Reolwr Gyfarwyddwr Capital Valley Plastics, Roger Phillips, yn trafod eu grant.

 

Chiltern PTP LTD, Rhymni, dyfarnwyd £60,457

Ynghylch Chiltern PTP Corfforwyd Chiltern PTP Ltd yn 2014, ac mae'r cwmni yn allwthio plastigion i gynhyrchu pren ffug a ddefnyddio yn bennaf ar gyfer cydrannau drysau allanol. 
Y gweithgaredd i’w gefnogi O ganlyniad i’r grant, bydd Chiltern PTP yn gallu cynyddu ei gapasiti gan 37.5% a chodi'r gyfradd o gynnwys eilgylch gan hyd at 100%, yn 85% o'u cynnyrch dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd y grant hefyd yn cefnogi creu dwy swydd gyfatebol a llawn-amser newydd.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Polystyren cyffredinol eilgylch (general purpose polystyrene/GPPS) pholystyren trawiad uchel. 
Y buddsoddiad cyfalaf  Bydd prynu a gosod dau beiriant allwthio newydd a phedair olwyn dreigl gludo newydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan y grant. 

 

E.L.I.T.E Supported Employment Agency Ltd, Merthyr Tudful, dyfarnwyd £72,600.00

Ynghylch E.L.I.T.E

Mae Elite Supported Employment Agency (SEA) yn gwmni a sefydlwyd i alluogi unigolion a chanddynt anableddau neu bobl sy’n profi anfantais i gyrraedd, sicrhau a chynnal gwaith cyflogedig drwy ddarpariaeth cefnogaeth a chymorth unigol wedi’i deilwra.

Mae Elite Paper Solutions yn eiddo’n llwyr i Elite SEA ac fe’i crëwyd yn 2015 i ddarparu ateb yng Nghymru i ddarpariaeth casglu a dinistrio gwastraff cyfrinachol, ynghyd â storfeydd archifau, a sganio dogfennau.

Y gweithgaredd i’w gefnogi

Mae’r cwmni wedi dechrau casglu a phrosesu cardfwrdd o sefydliadau’r sector cyhoeddus yn ddiweddar, ac wedi meithrin perthynas dda gyda rhai cleientiaid preifat sy’n cynhyrchu nwyddau ar gyfer ceffylau. Bwriedir lansio cynnyrch newydd a fydd yn defnyddio’r cardfwrdd a gesglir. Bydd Elite yn prosesu’r cardfwrdd ac yn ei werthu fel deunydd gwely anifeiliaid, a fydd yn gwneud i ffwrdd â’r angen i werthu’r cardfwrdd heb ei brosesu, ac yn cynhyrchu refeniw ychwanegol.

Mae ECO Animal Bedding yn ddeunydd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, yn defnyddio cardfwrdd rhychiog cymysg wedi’i dorri’n stribedi bach, gan greu dyluniad unigryw sy’n helpu i gynyddu ei natur amsugnol gan gadw haen gynnes wedi’i inswleiddio ar yr un pryd. Bydd y deunydd gwely ECO hwn yn gwasanaethu nid ceffylau’n unig, bydd yn addas hefyd ar gyfer, e.e., moch, llygod mawr, llygod, ffuredau, moch cwta, cwningod, bochdewion, tsintsilaod, degw, jerbilod, a draenogod pigmi Affricanaidd.

Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Cardfwrdd
Y buddsoddiad cyfalaf Peiriannau arbenigol a fydd yn prosesu a bwndelu’r deunydd gwely, yr addasiadau gofynnol i’r safle, ac offer fel byrddau didoli, cewyll ac offer gwresogi.

 

Frontier Plastics Ltd, rhan o grwp ehangach Vernacare Coed-duon, dyfarnwyd £394,467

Ynghylch Frontier Plastics Ltd Sefydlwyd Frontier Plastics Ltd yn 1966 ac mae’n cynhyrchu amrywiaeth eang o nwyddau hylendid a llawfeddygol ar gyfer y sector gofal iechyd.
Y gweithgaredd i’w gefnogi O ganlyniad i’r grant, bydd Frontier Plastics Ltd yn gallu cyflwyno hyd at 20% cynnwys eilgylch i gynwysyddion nodwyddau a chynhyrchu eu cyfres nwyddau eXchange o ddeunydd 100% eilgylch. Bydd y grant hefyd yn caniatáu creu dwy swydd barhaol cyfatebol â llawn amser.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Polypropylen (PP)
Y buddsoddiad cyfalaf Bydd pryniant system trin deunyddiau ac offer profi yn cael ei ariannu’n rhannol gan y grant.

GJD Services Ltd, Morgannwg, dyfarnwyd £201,000.00

Ynghylch GJD

Mae GJD Services yn arbenigo mewn darparu dull arloesol a sefydledig o reoli asedau awyrennau a gwasanaethau diwedd oes.

Mae’r sefydliad hwn yn gwmni ‘cydrannau allan’ a chynnal a chadw hynod brofiadol sy’n ymdrin â rheoli cylch oes nwyddau, a’r cwmni oedd y sefydliad cynnal a chadw a gwaredu awyrennau Ewropeaidd cyntaf i gael ei awdurdodi dan CAA ac EASA Rhan-145 y DU ac Asiantaeth yr Amgylchedd yr UE/DU ill dau. Mae GJD Services ar hyn o bryd yn tynnu’r holl gydrannau awyrennau nad ydynt wedi cyrraedd ‘diwedd eu hoes’ oddi ar gorff yr awyren ac yn eu dychwelyd i wasanaeth. Caiff holl ddeunyddiau eraill yr awyren (98% yn ôl ei bwysau) eu hailgylchu drwy’r gadwyn gyflenwi arferol. Ni ddefnyddir yr un broses ar gyfer injans awyrennau ar hyn o bryd, felly mae unrhyw injan sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes yn mynd i sgrap cyffredinol. Fodd bynnag, maent yn cynnwys nifer o gydrannau y gellir ymestyn eu hoes a’u dychwelyd i wasanaeth.

Y gweithgaredd i’w gefnogi  Bydd Cronfa Economi Gylchol WRAP/LlC yn galluogi GJD i fuddsoddi mewn offer hanfodol a fydd yn cynyddu capasiti eu gwasanaethau ailgylchu/ailbrosesu injans awyrenegol.  
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio

Cydrannau metelaidd i’w hailddefnyddio neu eu hailgylchu fel arall.

Y buddsoddiad cyfalaf  Offer sy’n cynnwys tŵls sy’n gyffredin mewn gwaith cynnal a chadw ar injans awyrenegol, er mwyn gallu eu datgymalu a’u hatgyweirio i dynnu cymaint o ‘werth’ â phosibl o eitemau drwy eu hailddefnyddio, a gwahanu/ailddefnyddio adnoddau prin a gwerthfawr o’r ddaear.

 

Heathpak, Crymlyn, dyfarnwyd £608,621

Ynghylch Heathpak Sefydlwyd Heathpak yn 1999, ac maent yn dylunio deunydd pacio bwrdd soled i’w ddefnyddio mewn marchnadoedd cig, pysgod, garddwriaeth a diwydiannol.
Y gweithgaredd i’w gefnogi  O ganlyniad i’r grant, bydd Heathpak yn mwy na dyblu eu cynhyrchiad o nwyddau sy’n 80–100% cynnwys eilgylch ac yn cyflwyno deunydd leinio arloesol wedi’i wneud o blanhigion i’w deunydd pacio bwrdd soled, i ddisodli’r deunydd leinio plastig presennol. Bydd y cynnydd hwn mewn cynhyrchu’n galluogi Heathpak i greu chwech o swyddi cyfatebol â llawn-amser newydd parhaol.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Papur eilgylch o gynwysyddion rhychog gwastraff.
Y buddsoddiad cyfalaf  Bydd pryniant peiriant dei-dorri a bwydwyr robotig ar gyfer peiriannau dei-dorri a phlygu a gludo newydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan y grant.

 

Gweithdi Beiciau Caerdydd, Caerdydd, dyfarnwyd £28,703.76

Ynghylch Gweithdi Beiciau Caerdydd Sefydlwyd Gweithdi Beiciau Caerdydd yn 2007, ac mae’n fenter gymdeithasol ddielw gyda’r nod o ddiddymu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag beicio. Ar ôl agor Gweithdi yn Caerdydd  yn 2010, mae Gweithdi Beiciau Caerdydd wedi ailwampio a gwerthu mwy na 4,000 o feiciau ac maen nhw’n cynnig gwasanaeth atgyweirio i’r cyhoedd.
Y gweithgaredd i’w gefnogi O ganlyniad i’r grant, bydd Gweithdi Beiciau Caerdydd yn gallu cynyddu eu gwaith ailwampio beiciau ail law a rhoi mwy o fynediad at feiciau fforddiadwy i’r cyhoedd. Bydd y grant hwn yn caniatáu creu un swydd newydd barhaol cyfatebol â llawn-amser.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Beiciau ail law.
Y buddsoddiad cyfalaf Bydd gosod mesanîn i gynyddu maint y gweithdy a gofod storio, ynghyd â byrddau a meinciau tŵls newydd, standiau beic, a golchwr cydrannau yn cael ei ariannu’n rhannol gan y grant.

 

JC Moulding, Brynmawr, dyfarnwyd £34,357.80

Ynghylch JC Moulding Sefydlwyd JC Moulding yn 2014, ac mae’r cwmni’n cynhyrchu nwyddau mowldio trwy chwistrell. Mae’r deunyddiau porthiant yn cynnwys polypropylen (PP) a styren biwtadïen acrylonitril (acrylonitrile butadiene styrene/ABS).
Y gweithgaredd i’w gefnogi  O ganlyniad i’r grant, bydd JC Moulding yn cynyddu’r cynnwys eilgylch yn eu nwyddau o 5% i fwy na 25%. Byddant hefyd yn gallu cynhyrchu nwyddau mwy a chynyddu eu capasiti cynhyrchu.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Plastigion PP ac ABS eilgylch.
Y buddsoddiad cyfalaf  Bydd peiriant mowldio trwy chwistrell uwchraddol, ynghyd ag offer ar gyfer y mowld a gwaith adeiladu ar gyfer storio’r deunyddiau ychwanegol yn cael eu hariannu’n rhannol gan y grant.

Astudiaeth Achos JC Moulding

 

Montgomery Waters, Yr Ystog, dyfarnwyd £375,000

Ynghylch Montgomery Waters Sefydlwyd  Montgomery Waters yn 1996, ac mae’r cwmni’n cynhyrchu dŵr ffynnon, dŵr mwnol, a dŵr gyda blas mewn poteli ar gyfer cwsmeriaid manwerthu, cyfanwerthu a gwasanaethau bwyd mawr yn y Deyrnas Unedig.
Y gweithgaredd i’w gefnogi  O ganlyniad i’r grant hwn, bydd Montgomery Waters yn gallu defnyddio 100% cynnwys eilgylch yn eu poteli 5 litr a 50% cynnwys eilgylch yn eu haenau lapio. Bydd y cymorth hwn yn diogelu saith o swyddi ac yn ymgorffori cannoedd o dunelli o ddeunydd eilgylch ychwanegol yn eu prosesau gweithgynhyrchu.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Polyethylen tereffthalad (PET) eilgylch, a haenen lapio polyethylen (PE).
Y buddsoddiad cyfalaf  Bydd pryniant llinell gynhyrchu poteli 5 litr newydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan y grant.

 

 

Pets Choice, Caerdydd, £164,774

Ynghylch Pets Choice Sefydlwyd Pets Choice yn 1987, ac mae’r cwmni yn gyflenwydd nwyddau anifeiliaid a anifeiliaid anwes byd-eang, yn cynnwys bwyd, gofal iechyd a nwyddau hylendid.
Y gweithgaredd i’w gefnogi  O ganlyniad i’r grant hwn, bydd Pets Choice yn gallu cynhyrchu deunydd sarn ar gyfer cathod wedi’i wneud gan ddefnyddio 100% deunyddiau eilgylch. Mae’r defnydd o lwch concrit eilgylch a gwastraff gypswm yn newydd i’r Deyrnas Unedig a bydd yn atal miloedd o dunelli o’r gwastraff hwn rhag mynd i dirlenwi. Bydd y cymorth hwn hefyd yn caniatáu diogelu swyddi presennol yn y safle cynhyrchu yng Nghaerdydd, ynghyd â chreu 21 o swyddi cyfatebol â llawn-amser newydd.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Llwch concrit eilgylch, gypswm, llwch mwnol/clai, a bagiau papur wedi’u hailgylchu.
Y buddsoddiad cyfalaf  Bydd pryniant peiriant bagio, system paledi, system peledi, ac uwchraddio system cywasgu’n cael ei ariannu’n rhannol gan y grant.

 

Radnor Hills Mineral Water Company Ltd, Powys, dyfarnwyd £170,851.50

Ynghylch Radnor Hills

Mae Radnor Hills yng Nghanolbarth Cymru’n cynhyrchu dŵr mwnol a diodydd ysgafn. Sefydlwyd y cwmni yn 1990 ac erbyn hyn, fwy na 30 mlynedd ers i’r botel gyntaf gael ei harllwys, mae’n cyflenwi rhagor na 250 o gyfanwerthwyr yn y Deyrnas Unedig a rhai o archfarchnadoedd mwyaf y Deyrnas Unedig.

Mae’r cwmni’n angerddol dros wneud i’r pethau symlaf flasu’n ardderchog, ac mae Radnor Hills wedi creu amrywiaeth eang o nwyddau mewn amryw o fformatau pecynnu, yn cynnwys plastig, gwydr, cartonau TETRA Pak a chaniau, oll wedi’u llenwi â’u dŵr ffynnon ei hunain o Gymru, ynghyd a sudd ffrwythau, dŵr â blas, dŵr ffwythiannol, dŵr wedi’i drwytho, diodydd iach i blant a diodydd près o safon ar gyfer oedolion.

Y gweithgaredd i’w gefnogi  Roedd llinell gynhyrchu poteli plastig PET newydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan y prosiect hwn, a fyddai’n galluogi’r cwmni i gynhyrchu poteli wedi’u gwneud o blastigion eilgylch (rPET) ar gyfer cyfres Eco newydd.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio rPET
Y buddsoddiad cyfalaf 

Galluogodd y grant i Radnor Hills fuddsoddi mewn llinell gynhyrchu rPET newydd a fydd yn cynhyrchu’r poteli i fanyleb y cleient o ran maint a gofynion plastig eilgylch. Bydd hyn yn galluogi Radnor Hills i gynyddu’r nifer o boteli sy’n cynnwys plastigion eilgylch gan o leiaf 8 miliwn y flwyddyn, gan ddefnyddio 100t+ o blastigion eilgylch gan gynhyrchwr yng Nghymru.

 

Re-worked Limited (yn masnachu fel smile plastics), Abertawe, dyfarnwyd £308,986.03

Ynghylch Re-worked (Smile Plastics) Sefydlwyd Smile Plastics yn 2010, ac mae’n cynhyrchu paneli thermoplastig addurniadol eilgylch i’w defnyddio gan fusnesau manwerthu, addurno mewnol a phensaernïaeth.
Y gweithgaredd i’w gefnogi 

Nod y prosiect hwn yw defnyddio plastigion ailgylchadwy ychwanegol i gynhyrchu niferoedd mwy o baneli addurniadol a ddefnyddir ar gyfer addurno mewnol masnachol a deunyddiau wedi’u teilwra.

Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio

Deunydd eilgylch PETG a HIPS

Y buddsoddiad cyfalaf 

Bydd y cymorth grant yn galluogi’r Derbynnydd i brynu llinell gynhyrchu paneli ychwanegol i fodloni’r cynnydd yn y galw amdanynt a magu capasiti ar gyfer y dyfodol.

 

Sarpak, Port Talbot, dyfarnwyd £161,282.37

Ynghylch Sarpak Sefydlwyd Sarpak yn 2002, ac mae’n cynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau pacio plastig i warchod nwyddau rhag difrod. Fe’u defnyddir gan fusnesau yn y sectorau cynhyrchu bwyd, dodrefn a fferyllol.
Y gweithgaredd i’w gefnogi O ganlyniad i’r grant, bydd Sarpak yn ychwanegu 30% o gynnwys eilgylch mewn deunydd haenen blastig tair haen o safon uchel, a wnaed o blastigion crai o’r blaen. Bydd yr haen ganol yn cael ei gwneud o blastigion eilgylch, a bydd hyn yn golygu y gall Sarpak leihau eu ôl-troed amgylcheddol heb gyfaddawdu ar ansawdd nac ailgylchadwyedd eu nwyddau.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Polyethylen dwysedd uchel (high density polyethylene/HDPE) a pholyethylen dwysedd isel (low density polyethylene/LDPE).
Y buddsoddiad cyfalaf  Bydd prynu a gosod peiriant cyd-echdynnu haenau plastig chwyddedig tair haen yn cael ei ariannu’n rhannol gan y grant.

 Dyma fideo byr o gyfarwyddwr Sarpak, Lee Shackson, yn trafod eu grant.

 

Smile Plastics, Abertawe, dyfarnwyd £149,972.05

Ynghylch Smile Plastics Sefydlwyd Smile Plastics yn 2010, ac mae’n cynhyrchu paneli addurnol thermoplastig o ddeunydd 100% eilgylch, ar gyfer eu defnyddio gan fusnesau manwerthu, dylunio ystafelloedd a phensaernïaeth. 
Y gweithgaredd i’w gefnogi  Bydd Smile Plastics yn cynyddu eu graddfa cynhyrchu nwyddau o safon uchel ar eu safle yn Abertawe, yn cynyddu effeithlonrwydd ac yn lleihau eu defnydd ynni o ganlyniad i’r grant.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Polyethylen dwysedd uchel (high-density polyethylene/HDPE), plât polystyren cryfder uchel (high impact polystyrene sheet/HIPS), styren biwtadïen acrylonitril (acrylonitrile butadiene styrene/ABS) a pholyethylen tereffthalad (PET).
Y buddsoddiad cyfalaf  Bydd offer trawsnewid deunydd rhannol awtomatig, hynod arbenigol, wedi’i uwchraddio, offer cysylltiedig, ac addasiadau i’r ffatri’n cael eu hariannu’n rhannol gan y grant.

 

Synergy Plastics Ltd, Casnewydd, dyfarwyd £98,858.16

Ynghylch Synergy Plastics

Sefydlwyd Synergy Plastics yn 1997 gan y brodyr John, Michael a Nigel Batt, ac mae’r busnes teuluol hwn yn arbenigo mewn cynhyrchu nwyddau plastig wedi’u mowldio drwy chwistrell. 
Mae’r cwmni’n gwasanaethu nifer o sectorau’r farchnad, yn cynnwys nwyddau i’r cartref a dyfeisiau meddygol, ac mae’n cyfrif nifer o gwsmeriaid rhyngwladol mawr ymysg ei gwsmeriaid.
Mae’r rhan fwyaf o nwyddau’r cwmni’n cael eu cynhyrchu o blastigion crai, ond yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r cwmni wedi cynyddu’r cynnwys eilgylch mae’n ei ddefnyddio mewn ymateb i alw gan gwsmeriaid. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n defnyddio tua 680 tunnell o Bolypropylen (PP) eilgylch bob blwyddyn.

Y gweithgaredd i’w gefnogi 

Nod y Prosiect hwn yw cynhyrchu tri chynnyrch label gwyn newydd o 100% cynnwys eilgylch, a hynny drwy brynu peiriant mowldio drwy chwistrell ychwanegol a fydd yn arwain at ddefnyddio 1,193.7 o dunelli ychwanegol o gynnwys eilgylch yn y nwyddau a gynhyrchir gan Synergy Plastics Limited.

Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Polypropylen
Y buddsoddiad cyfalaf 

Bydd y cymorth grant yn galluogi’r Derbynnydd i brynu offer cyfalaf.

 

Techlan, Abertawe, dyfarnwyd £40,061.83

Ynghylch Techlan Sefydlwyd Techlan yn 2009, ac mae’n cynhyrchu papur rhyddhau silicon a ddefnyddir gan amrywiaeth o sectorau, o gynhyrchwyr deunydd pacio i’r diwydiant awyrofod.
Y gweithgaredd i’w gefnogi Bydd y grant yn helpu Techlan i gwrdd â’r galw cynyddol am ddeunydd pacio a ddefnyddir i anfon nwyddau a brynir ar-lein i gwsmeriaid. Mae hwn yn gynnyrch newydd, wedi’i wneud 100% o gynnwys eilgylch, i’w ddefnyddio i warchod arwynebau gludiog ar y deunydd pacio.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Papur eilgylch.
Y buddsoddiad cyfalaf Bydd prynu peiriant trawsnewid, offer cysylltiedig, ac addasiadau i’r ffatri er mwyn cynhyrchu’r deunydd newydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan y grant.

 

Techlan, Abertawe, dyfarnwyd £140,370

Ynghylch Techlan Sefydlwyd Techlan yn 2009, ac mae’n cynhyrchu papur rhyddhau silicon a ddefnyddir gan amrywiaeth o sectorau, o gynhyrchwyr deunydd pacio i’r diwydiant awyrofod.
Y gweithgaredd i’w gefnogi Bydd y grant yn helpu Techlan i gael eiddo newydd a phrynnu offer newydd i gynyddu ei gapasiti cynhyrchu symiau mwy. Bydd hyn yn arwain at fwy o ofod storio a chapasiti i fodloni'r galw cynyddol a datblygiad ffynonellau cyflewi amgen. 
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Papur eilgylch.
Y buddsoddiad cyfalaf Bydd y grant yn cynorthwyo'r cwmni i symud i eiddo newydd a phrynnu a gosod llinell lanhau a pheiriannau ail-weindio newydd ar gyfer dwy linell gynhyrchu newydd. 

 

Tilon CG Ltd, Glyn Ebbw, dyfarnwyd £300,000.00

Ynghylch Tilon CG Ltd Mae Tilon C G Ltd yn cynhyrchu paneli cyfansawdd perfformiad uchel. Prif nwyddau’r cwmni yw rhwystrau sŵn amgylcheddol a byrddau sgaffald a gynhyrchir o gymysgedd o Bolyethylen Dwysedd Uchel (HDPE)/Polypropylen (PP) a ffibr gwydr eilgylch. Ynghyd â byrddau sgaffald, mae’r cwmni hefyd yn cyflenwi’r fasnach adeiladu gyffredinol â rhwystrau a phartisiynau diwydiannol, a decin ar gyfer cymwyseddau masnachol.
Y gweithgaredd i’w gefnogi Nod y prosiect yw defnyddio plastig eilgylch ychwanegol a ffibr gwydr eilgylch ychwanegol drwy gynhyrchu rhwystrau sŵn a byrddau sgaffald wedi’u cynhyrchu o Bolyethylen Dwysedd Uchel (HDPE) a ffibr gwydr eilgylch.
Y deunydd eilgylch i’w ddefnyddio Polyethylen Dwysedd Uchel (HDPE) a deunydd ffibr gwydr eilgylch.
Y buddsoddiad cyfalaf

Bydd y cymorth grant yn galluogi’r Derbynnydd i brynu ail linell gynhyrchu gyda chapasiti mwy, yn cynnwys peiriant allwthio, dei a system brosesu ymhellach i lawr yn y broses, i weithredu ochr yn ochr â’i linell gynhyrchu bresennol i gynhyrchu 2,288 o dunelli ychwanegol o gynnyrch wedi’i allwthio.

Nôl i'r Gronfa Economi Gylchol
Welsh Government Initiative Logo