Datblygwyd eiconograffeg yr eiconau deunydd dwyieithog i godi ymwybyddiaeth o'r deunyddiau y gellir eu hailgylchu ac i annog cartrefi i gymryd rhan weithredol yn eu gwasanaethau ailgylchu lleol.
Dyluniwyd yr eiconau i gefnogi brand yr ymgyrch cenedlaethol Cymru yn Ailgychu ac i ddarparu golwg a theimlad cyson ar draws cyfathrebiadau ailgylchu. Mae gwahanol opsiynau ar gael ar gyfer yr eiconau felly gellir eu teilwra i weddu orau i'r gynulleidfa darged ac yr amgylchiadau.
Mae'r eiconau'n darparu set o arwyddbyst ymarferol sy'n dangos yr hyn y gellir ei ailgylchu, ac y gellir ei ddefnyddio mewn llawer o gymwysiadau gan gynnwys: cyfathrebiadau awdurdodau lleol, arwyddion wrth safleoedd ‘dod’, yng nghanolfannau ailgylchu, ar gynwysyddion ailgylchu a deunydd pacio cynnyrch.