Food waste caddy successfully manufactured from 100% post-consumer recycled Polypropylene sourced through Welsh supply chain.jpg

Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2021

Diweddariad prosiect – Llwyddiant wrth Gyrchu a Defnyddio rPP Drwy Gadwyn Gyflenwi yng Nghymru

Yn dilyn llwyddiant ein gwaith ar y cynwysyddion eitemau miniog ar gyfer y sector meddygol, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod cynnydd da wedi’i wneud hefyd wrth ddefnyddio cynnwys eilgylch o Gymru mewn nwyddau ar gyfer sector nwyddau’r cartref.

Yn wahanol i’r deunyddiau a ganfuwyd ar gyfer y cynwysyddion eitemau miniog, roedd y polypropylen eilgylch (recycled polypropylene/rPP) o ffynonellau a wahanwyd yn y ffynhonnell a ffynonellau cymysg yng Nghymru yn cyflwyno nodweddion ffisegol nad oeddent yn cyrraedd y safonau angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu’r cadis gwastraff bwyd, sef y cynnyrch targed ar gyfer y treialon. O ganlyniad, roedd angen cynnal rhaglen ddatblygu deunyddiau ehangach er mwyn gwella nodweddion ffisegol y polymer drwy ddefnyddio ychwanegion gwella perfformiad.

Mae’r gwaith hwn wedi’i gwblhau’n llwyddiannus ac mae’n bleser gennym adrodd bod rPP 100% sy’n meddu ar y nodweddion priodol wedi’i ddatblygu’n llwyddiannus gan ddefnyddio cadwyn gyflenwi wedi’i lleoli’n bennaf yng Nghymoedd y De. Mae’r gadwyn gyflenwi hon yn cynnwys cynhyrchwyr gwastraff, casglwyr gwastraff, ailbroseswr, gweithredwr compowndio a chynhyrchwr.

Gydag effaith amlwg Covid-19 ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol a chenedlaethol, mae’r gallu i gyrchu a defnyddio deunyddiau mewn cyd-destun lleol wedi dod yn gynyddol bwysig i gynhyrchwyr. Mae’r prosiect wedi dangos bod modd llwyddo, gyda’r adnoddau priodol a gweithgaredd wedi’i ffocysu, i ganfod deunyddiau, prosesau a phartneriaid i ddarparu cadwyn gyflenwi leol effeithiol.

Hyd yma, dangoswyd fod yr rPP yn addas ar gyfer cynhyrchu’r cadi gwastraff bwyd, a bydd treialon pellach yn cael eu cynnal yn y misoedd nesaf i gadarnhau addasrwydd yr rPP i’w ddefnyddio mewn nwyddau eraill i’r cartref.

Food waste caddy successfully manufactured from 100% post-consumer recycled Polypropylene sourced through Welsh supply chain.jpg

Cadi gwastraff bwyd wedi’i gynhyrchu’n llwyddiannus o rPP ôl-gwsmer 100% eilgylch a gyrchwyd drwy gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Nol i Prosiectau Arddangos