Adroddiad gan WRAP Cymru yn datgelu cyfoeth ailddefnyddio

16 Gorffennaf 2018

Gallai ailddefnyddio eitemau sydd wedi cael eu taflu, yn hytrach na gadael iddynt fynd yn wastraff, arwain at fuddion lu i Gymru, yn ôl cyhoeddiad newydd gan yr elusen gynaliadwyedd, WRAP Cymru.

  • Gwerthiant o £1,440 miliwn o eitemau a baratowyd ar gyfer ailddefnyddio1
  • 1,770,000 o dunelli wedi’u paratoi ar gyfer ailddefnyddio2

Mae Paratoi ar gyfer Ailddefnyddio: Mapio’r Llwybr ar gyfer Newid Sylfaenol yng Nghymru, a gyhoeddwyd heddiw (16 Gorffennaf 2018), wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cyflwyno’r camau gweithredu sydd eu hangen i drawsnewid sut mae Cymru’n ymdrin â’r gwastraff hwn a beth allai hyn olygu i’r economi ac i’r amgylchedd.

Mae’r map llwybr yn canfod y byddai symud tuag at economi gylchol lle mae prydlesu nwyddau, ailgynhyrchu, dylunio modwlar, a chyfrifoldeb cynhyrchwr estynedig oll yn gyffredin yn cynnig ‘cryn botensial i gynyddu’r tunelleddau a ailddefnyddir’

Yn ogystal ag archwilio’r effaith y byddai’r newid sylfaenol hwn i economi gylchol3 yn ei gael ar ailddefnyddio, mae’r map llwybr yn amlinellu effeithiau posibl tair senario arall – yn cynnwys un sy’n canolbwyntio ar effaith atgynhyrchu’r arfer da presennol yng Nghymru yn genedlaethol, gan ganolbwyntio ar ddodrefn, dillad ac esgidiau, cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (waste electrical and electronic equipment/WEEE), paent a farnais, pren, carpedi ac isgarped ac eitemau eraill4.

Mae hefyd yn argymell ymyriadau i helpu i wireddu’r buddion hyn, yn cynnwys canolfan ragoriaeth ar ailddefnyddio i gynnwys holl brifysgolion Cymru, gosod targed ailddefnyddio cenedlaethol, a datblygu brand ac ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgysylltu cenedlaethol. 

Bu Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, yn ymweld â FRAME Sir Benfro i nodi cyhoeddiad y map llwybr. Mae FRAME yn un o nifer o fudiadau trydydd sector Cymru sy’n paratoi eitemau a gasglwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer eu hailddefnyddio. Meddai: 

“Mae ailddefnyddio yn helpu i leihau’r straen ar ein hadnoddau gwerthfawr. Fy uchelgais yw creu economi fwy cylchol yng Nghymru, gan wneud mwy â’r hyn rydym yn ei ddefnyddio yma a dod yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol ar ailddefnyddio.

“Rwy’n falch mai Cymru yw’r genedl orau yn y Deyrnas Unedig am ailgylchu gwastraff y cartref, a’r trydydd yn y byd. Bydd y map llwybr yn ffynhonnell hollbwysig o wybodaeth wrth inni weithio tuag at ein nod o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.”
Ychwanegodd Carl Nichols, Pennaeth WRAP Cymru:
 
“Mae’r map llwybr hwn yn dangos y rôl allweddol y gall paratoi ar gyfer ailddefnyddio ei chwarae yn natblygiad economi gylchol i Gymru. Rydw i a fy nghydweithwyr yn WRAP Cymru yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, mudiadau’r trydydd sector a busnesau i gyflymu’r newid tuag at economi gylchol yng Nghymru, gyda’r holl fuddion a ddaw yn sgil hynny.”
 
Cynhyrchwyd Paratoi ar gyfer Ailddefnyddio: Mapio’r Llwybr ar gyfer Newid Sylfaenol yng Nghymru gan Resource Futures, ac mae’n cyflwyno graddfa’r hyn y gellid ei gyflawni yng Nghymru. Yn ogystal â lleihau gwastraff a manteision amgylcheddol, gall paratoi ar gyfer ailddefnyddio greu swyddi ac arbed arian i gynghorau a dinasyddion. Bydd yn cael ei ddefnyddio mewn trafodaethau polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, ac mae’n ffurfio rhan o Raglen Newid Cydweithredol WRAP Cymru, sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru i helpu awdurdodau lleol gwrdd â thargedau ailgylchu statudol ac arbed arian.
 
1tud 21 Effaith gronnol 2019-2050 ar gyfer Senario B+ Uchafswm Technegol Dichonol;

2tud 21 Effaith gronnol 2019-2050 ar gyfer Senario B+ Uchafswm Technegol Dichonol;

3tud 24 Senario C;

4 Mae’r categori ‘eitemau eraill’ yn cynnwys llyfrau, offer garddio, teganau, beiciau, matresi a chyfarpar babanod.

Nodiadau i olygyddion

Mae WRAP Cymru yn rhan o WRAP. Wedi’i sefydlu gyntaf yn 2000, mae WRAP yn fudiad dielw sydd yn gweithio gyda llywodraethau, busnesau a dinasyddion i greu byd lle rydym yn defnyddio adnoddau yn gynaliadwy. Mae ein heffaith yn cwmpasu cylch bywyd cyfan y bwyd yr ydym yn ei fwyta, y dillad yr ydym yn eu gwisgo a'r nwyddau’r ydym yn eu prynu, o’u cynhyrchu i’w defnyddio a thu hwnt.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Luisa Pastore yn WRAP Cymru 02920 100107 luisa.pastore@wrap.org.uk