Anogaeth i bawb yng Nghymru: BYDD WYCH dros yr Ŵyl eleni, a chael y genedl i rif un yn fyd-eang

14 Rhagfyr 2021

Gan fod Cymru’n drydedd genedl orau’r byd am ailgylchu ar hyn o bryd, gallwn bwyso ymlaen i gyrraedd y brig trwy ailgylchu cymaint â phosibl dros gyfnod yr Ŵyl. Mae WRAP Cymru a Llywodraeth Cymru’n annog pobl gyda’r neges: ‘Bydd Wych’ a mynd gam ymhellach eto i sicrhau tymor Nadolig gwirioneddol wyrdd eleni.

  • Mae 94%** o Gymru’n ailgylchu ac mae bron i hanner y boblogaeth yn ailgylchu mwy fyth nag yr oedden nhw’r llynedd.
  • Gallai mwy o ailgylchu’r Nadolig hwn helpu Cymru i hawlio eu safle fel ailgylchwyr gorau’r byd

Mae WRAP Cymru – yr elusen sy’n gyfrifol am Cymru yn Ailgylchu a’r ymgyrch Bydd Wych – yn galw ar aelwydydd i ddal ati gyda’u gwaith da a bod yn arbennig o ofalus gyda’u hailgylchu dros y Nadolig. Y cyngor gan WRAP Cymru yw os nad ydych chi’n siŵr a ellir ailgylchu eitem, dylech wirio’r manylion ailgylchu ar y pecyn yn gyntaf, yna edrych ar wefan y cyngor perthnasol am wybodaeth ynghylch eitemau anghyfarwydd i sicrhau bod unrhyw eitemau anghyfarwydd yn cael eu rhoi yn y lle iawn, er mwyn inni allu ailgylchu popeth posibl.  

Bydd ymgyrch ‘Bydd Wych’ yn helpu pobl osgoi camgymeriadau cyffredin a gwneud ailgylchu’r Nadolig hwn yn haws nag erioed. Bydd yr ymgyrch Nadoligaidd, sy’n dechrau heddiw (dydd Mawrth 14 Rhagfyr) yn tynnu sylw at y ffyrdd syml y gallwn roi hwb i’n hailgylchu drwy ganolbwyntio ar yr eitemau Nadoligaidd allweddol gyda chyngor i’w gael ar www.ByddWychAilgylcha.org.uk.

Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar yr eitemau creiddiol hynny sy’n dueddol o godi dros y ’Dolig, a bydd ymgyrch blaenllaw ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg ac yn Saesneg yn tynnu sylw at yr angen i ailgylchu unrhyw esgyrn twrci, coesynnau sbrowts, bagiau te, cardbord, tybiau melysion plastig (ond nid y papurau melysion), casys mins peis, caniau a photeli siampŵ/sebon dwylo plastig. Byddwn hefyd yn dathlu criwiau casglu fel rhan o’r ymgyrch, gyda’r neges nad ar gyfer y Nadolig yn unig mae ailgylchu – ond ar gyfer y flwyddyn gron gyfan. Mae’r wefan yn llawn cyngor a syniadau ailgylchu, a gallwch hyd yn oed roi cynnig ar gystadleuaeth arbennig i ennill hamper.

Meddai Bettina Gilbert, Pennaeth Darpariaeth Rhaglenni WRAP Cymru:

Y Nadolig yw’r adeg pan fyddwn ni oll yn ymlacio, a gall hefyd fod yn gyfnod pan fyddwn ni’n creu mwy o wastraff na’r rhan fwyaf o wythnosau eraill. Rydym am helpu pobl i ailgylchu popeth posibl – i lawr i’r sbrowten olaf. Gyda COP26 yn ein hatgoffa o’r angen i weithredu ar newid hinsawdd, gwyddom fod Cymru eisoes yn ailgylchu’n wych ac rydym am gael Nadolig gwyrddach fyth eleni. Mae peidio â gwastraffu bwyd, ac ailgylchu deunyddiau yn ddwy ffordd hollbwysig y gallwn ni oll helpu i leihau’r nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â’r hyn a ddefnyddiwn fel cenedl. Y Nadolig hwn, bydd yr ymgyrch Bydd Wych yn helpu aelwydydd i wneud hynny.”

Meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Mae ein hystadegau ailgylchu ymysg y gorau yn y byd diolch i ymdrechion Tîm Cymru ac mae’n dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fo’r llywodraeth, busnesau a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd tuag at nod gyffredin.”

“Gwyddom oll fod mwy o wastraff yn cael ei greu dros gyfnod yr Ŵyl, ac felly rwy’n annog pawb i ddefnyddio’r cynghorion defnyddiol hyn i gael Nadolig gwyrddach eleni a’n helpu ni gyda’r ymdrech i fod y genedl ailgylchu orau yn y byd.”

Cynghorion Ailgylchu 12 Dydd y Nadolig gan Cymru yn Ailgylchu

Mae Cymru yn Ailgylchu yn dod â 12 Dydd y Nadolig yn fyw drwy arddangos 12 o eitemau Nadoligaidd cyffredin y gellir eu hailgylchu oll, o dybiau siocled a chasys mins peis, i drimins y twrci a chrafion llysiau. Trwy ddal ati gyda’r gwaith da, gallwn helpu Cymru gyda’r ymgyrch gwych i fod yn genedl orau’r byd am ailgylchu.

1. Ailgylchwch eich bagiau te

Mae 69% o bobl Cymru’n ailgylchu eu bagiau te. Gall ailgylchu dau fag te trwy ddefnyddio eich cadi gwastraff bwyd greu digon o drydan i wefru ffôn clyfar.

2. Siâp potel? Ailgylcha fe!

Heddiw, mae 90% ohonom yn ailgylchu poteli plastig, o boteli diodydd i nwyddau glanhau a nwyddau ymolchi. Gwagiwch, gwasgwch a rhowch y caead yn ôl ar y botel i’w hailgylchu, a thynnwch unrhyw chwistrellau a phympiau gan na ellir ailgylchu’r rhain. Mae ailgylchu dim ond un botel siampŵ yn arbed digon o ynni i bweru stereo am bump awr.

3. Concrwch eich cardbord pacio

Rydym yn defnyddio mwy o gardbord dros y Nadolig nac unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. Mae 92% o bobl Cymru’n ailgylchu eu cardbord. Cofiwch dynnu unrhyw dâp pacio a fflatio’r bocsys i arbed lle yn eich bag, bin neu focs ailgylchu.

4. Mwynhewch Nadolig glanach, gwyrddach

Ailgylchwch eich poteli sebon dwylo gwag pan fyddwch wedi gorffen golchi’ch dwylo ar ôl glanhau yn dilyn eich parti Dolig. Gadewch unrhyw gaeadau, labeli, pigau tywallt a chwistrelli ar y poteli, caiff y rhain eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu. Mae 90% o bobl Cymru’n ailgylchu eu poteli sebon dwylo gwag, y cwbl mae angen ichi ei wneud yw eu rinsio, eu gwasgu a’u hailgylchu!

5. Casys mins peis ffoil

Gellir ailgylchu metel dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio – ac mae hynny’n cynnwys casys mins peis a ffoil (glân) a ddefnyddiwyd i goginio. Mae 70% o Gymru’n ailgylchu ein ffoil. Gwasgwch eitemau ffoil yn belenni cyn eu hailgylchu a thynnwch unrhyw ddarnau o fwyd oddi ar y ffoil yn gyntaf. Gwagiwch a rinsiwch gynwysyddion ffoil.

6. Blaenoriaethu’r bwyd y Nadolig hwn

Gallwch ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau, ac unrhyw fwyd dros ben o’ch cinio Nadolig (na ellir ei fwyta’n ddiogel yn nes ymlaen wrth wylio’r teledu). A chofiwch am wastraff bwyd anochel arall, fel bagiau te, gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau, a hen fara. Gwnewch yn siŵr ei fod yn mynd i’ch cadi gwastraff bwyd i’w ailgylchu. Mae’r rhan fwyaf ohonom yng Nghymru’n ailgylchu ein gwastraff bwyd, a gall un llond cadi o wastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru set teledu am ddwy awr o ffilm Bond.

7. Clywch y caniau

P’un ai diod feddwol ynteu ddiodydd ysgafn blasus fyddwch chi’n sipian arno, cofiwch ailgylchu eich caniau. Mae ailgylchu un can yn arbed digon o ynni i bweru sugnwr llwch am awr.

8. Rhoi a rhoi, dro ar ôl tro gyda gwydr

Mae gwydr yn hawdd i’w ailgylchu a gellir ei ailgylchu’n nwyddau newydd dro ar ôl tro. Rhowch rinsiad i boteli gwydr sy’n dal gwin, cwrw a diodydd ysgafn a rhoi’r caead yn ôl arnynt cyn eu rhoi yn eich ailgylchu. Gellir ailgylchu jariau glân o biclau, siytni a sawsiau hefyd.

9. Ailgylchwch eich tybiau siocled plastig

Mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel o blastig wedi’i ailgylchu yn hytrach na defnyddio deunyddiau crai. Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o blastig, yn cynnwys y tybiau siocled a melysion rydyn ni’n eu mwynhau gartref dros y Nadolig. Os ydych chi’n didoli eich eitemau ailgylchadwy i gynwysyddion ar wahân, rhowch y rhain yn eich cynhwysydd ar gyfer ‘plastigion a chaniau’. Tynnwch unrhyw bapurau melysion yn gyntaf. Mae 90% o bobl yn ailgylchu eu tybiau plastig.

10. Coed Nadolig

Mae coed Nadolig ‘go iawn’ yn 100% ailgylchadwy. Holwch eich cyngor lleol i weld a wnân nhw eu casglu gyda’ch gwastraff o’r ardd neu os gallwch fynd â nhw i’ch canolfan ailgylchu leol. Gellir ailddefnyddio coed Nadolig plastig flwyddyn ar ôl blwyddyn, ond pan ddaw’r amser i’w hailgylchu, dylid eu hailgylchu gyda phlastigion caled yn eich canolfan ailgylchu leol.

11. Deunydd pacio calendrau Adfent

Unwaith y byddwch wedi agor drws olaf eich calendr Adfent, a phan fyddwch chi’n barod i gael gwared ar y deunydd pacio, gwahanwch y cardbord oddi wrth y plastig y tu mewn. Gellir fflatio’r deunydd pacio cardbord allanol a’i ailgylchu. Ni ellir ailgylchu’r plastig mewnol, felly rhowch hwn yn eich bin sbwriel cyffredinol ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu. Bwytewch y siocled.

12. Cardiau Nadolig ac amlenni

Gellir ailgylchu eich cardiau Nadolig, ond cofiwch dynnu unrhyw rubanau, llwch llachar, ffoil ac arian cyn eu rhoi yn eich ailgylchu. Os caiff eich papur a’ch cardbord ei ailgylchu ar wahân, rhowch eich cardiau yn eich cynhwysydd cardbord a’r amlenni yn eich cynhwysydd papur.

Nodiadau i olygyddion

  • **Canlyniadau Traciwr Ailgylchu WRAP Hydref 2021.
  • Mae data newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos, er gwaethaf heriau COVID-19, mae ailgylchu Cymru yn parhau i ragori ar ei darged o 64% ac eleni fe gododd i’r gyfradd uchaf erioed, sef 65.4%, yn 2020-21.
  • Yng Nghymru, y ddeg eitem sy’n halogi ailgylchu wrth ymyl y ffordd amlaf yw:  
  1. Pecynnau ffoil bwydydd a diodydd
  2. Gwydrau yfed
  3. Caeadau haenen blastig
  4. Tiwbiau past dannedd
  5. Haenen lapio blastig
  6. Bagiau llysiau plastig o’r rhewgell
  7. Bagiau plastig
  8. Offer coginio gwydr
  9. Cartonau a Tetrapak
  10. Hancesi a thyweli papur
  • Sefydliad anllywodraethol byd-eang wedi’i leoli yn y DU yw WRAP. WRAP yw un o’r 5 elusen amgylcheddol blaenaf yn y DU, ac mae’n gweithio gyda llywodraethau, busnesau ac unigolion i sicrhau y caiff adnoddau naturiol y byd eu defnyddio mewn modd mwy cynaliadwy. Dyma’r elusen sy’n arwain ar yr UK Plastics Pact (y cyntaf o’i fath yn y byd), Ymrwymiad Courtauld 2030, Tecstilau 2030, yn ogystal â’r ymgyrchoedd ar gyfer dinasyddion: Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, Caru eich Dillad, Clir ar Blastigion ac Ailgylchu Nawr. Mae WRAP yn gweithio’n gydweithredol ac yn datblygu a chyflawni atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i leihau cost amgylcheddol y bwyd a fwytawn, y dillad a wisgwn a’r deunydd pacio plastig a ddefnyddiwn. Sefydlwyd WRAP yn y DU yn 2000, ac mae bellach yn gweithio ym mhedwar ban byd ac yn Bartner y Gynghrair Fyd-eang i Wobr Earthshot y Sefydliad Brenhinol.
  • Dilynwch ein hymgyrchoedd ar Instagram: @lfhw_uk @recyclenow_uk @CymruYnAilgylchu @ClearOnPlastics @LoveYourClothes_UK 
  • Mae arbenigwyr WRAP ar gael ar gyfer cyfweliadau darlledu, briffiau a sylwadau – cysylltwch ag: WRAP 07951 346196 or email media.enquiries@wrap.org.uk