Cronfa gwerth £6.5m sy’n cynnig mwy o gymorth, yn gyflymach, i amrywiaeth ehangach o sefydliadau yng Nghymru

14 Mai 2020

Mae’n bleser gan WRAP gyhoeddi ei fod wedi ehangu cwmpas Cronfa Economi Gylchol Cymru sy’n werth £6.5 miliwn. Cyflwynwyd y gronfa ym mis Ebrill 2019 i gefnogi cynhyrchwyr yng Nghymru i ddefnyddio deunyddiau eilgylch. Erbyn hyn, gall hefyd gefnogi gweithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgynhyrchu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu nwyddau cynaliadwy i gynorthwyo yn y frwydr fyd-eang yn erbyn coronafeirws, fel cynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol (Personal Protective Equipment/PPE).

Bydd proses ymgeisio ddiwygiedig a mwy ystwyth, yn ei gwneud yn bosibl i grantiau gael eu dyfarnu’n gyflymach. Gwnaed y newidiadau hyn i helpu economi Cymru ymateb i heriau’r pandemig COVID-19.

Meddai Marcus Gover, Prif Swyddog Gweithredol WRAP:

“Pwrpas Cronfa Economi Gylchol Cymru yw helpu i ddatblygu sector cynhyrchu ac ailgynhyrchu cadarn a chynaliadwy yng Nghymru. Bydd yn cefnogi cynhyrchu ac ailgynhyrchu nwyddau wedi’u gwneud yn lleol o ddeunyddiau crai eilgylch o Gymru. Bydd yn cynorthwyo twf gwasanaethau trwsio ac atgyweirio lleol i helpu pobl Cymru gael y gwerth gorau bosibl o’r nwyddau y maent yn eu prynu. Bydd yn creu swyddi, yn helpu i fynd i’r afael a newid hinsawdd, ac yn gwneud economi Cymru’n fwy gwydn. 

“Bydd y grantiau a ddyfarnwyd hyd yma yn arwain at dros £2 filiwn o fuddsoddiad cyfalaf. Nawr ein bod wedi ehangu’r cwmpas, edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau gan fwy o sefydliadau sy’n gweithredu yng Nghymru.”

Dros gyfnod o dair blynedd, disgwylir i’r grantiau a ddyfarnwyd eisoes arwain at:

  • ddefnyddio 10,000 o dunelli ychwanegol o ddeunyddiau eilgylch
  • atal mwy na 6,200 o dunelli o allyriadau CO2 
  • twf mewn trosiant o fwy na £7.3 miliwn
  • creu o leiaf 14 o swyddi newydd

Mae grantiau ar Raddfa Fach o £6,000 hyd €200,000 a grantiau ar Raddfa Fawr o €200,000 hyd £750,000 nawr ar gael. Caiff sefydliadau o unrhyw faint wneud cais, cyn belled â’u bod yn bwriadu gweithredu yng Nghymru.

Rhai i brosiectau cymwys:

  • gynyddu’r defnydd a wneir o blastig, papur/cerdyn neu decstilau eilgylch mewn nwyddau a gynhyrchir eisoes neu nwyddau newydd (caiff prosiectau sydd am ddefnyddio deunyddiau eilgylch eraill eu hystyried fesul achos); neu
  • ymestyn hyd oes nwyddau/deunyddiau trwy weithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio neu ailgynhyrchu.

Ceir mwy o wybodaeth yma: datganiadau-i-yr-wasg/cronfa-gwerth-ps65m-syn-cynnig-mwy-o-gymorth-yn-gyflymach-i-amrywiaeth

    Nodiadau i olygyddion

    • Sefydliad dielw yw WRAP a sefydlwyd yn 2000, ac mae’n gweithio gyda llywodraethau, busnesau a dinasyddion i greu byd lle rydym yn cyrchu ac yn defnyddio adnoddau yn gynaliadwy. Mae ein heffaith yn cwmpasu cylch bywyd cyfan y bwyd yr ydym yn ei fwyta, y dillad yr ydym yn eu gwisgo a'r nwyddau’r ydym yn eu prynu, o’u cynhyrchu i’w defnyddio a thu hwnt. www.wrap.org.uk
    • Mae WRAP Cymru yn darparu cymorth sy’n benodol i Gymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn cynnwys darparu’r Gronfa Economi Gylcholcefnogaeth caffael ar gyfer y sector cyhoeddus, y Rhaglen Newid Cydweithredol ar gyfer awdurdodau lleol a'r ymgyrch Cymru yn Ailgylchu. Mae ein gwaith hefyd yn cynnwys rhaglenni sy’n gweithio ledled y DU, yn cynnwys yr UK Plastics Pact.