Close up of multicoloured plastic pellets

Prosiectau o fewn y gadwyn gyflenwi

Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru i gydweithio â mwy nag 20 o sefydliadau partner o amrywiol feintiau, o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus (2019 - 2022), i gyflawni pedwar prosiect arddangos o fewn y gadwyn gyflenwi.

Mae y rhain yn dangos sut gellir goresgyn rhwystrau i gynyddu’r defnydd o ddeunydd eilgylch – yn enwedig plastig – mewn gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Trwy'r prosiectau hyn, ein nod oedd mynd i’r afael â heriau masnachol a thechnegol – fel defnyddio deunyddiau eilgylch mewn nwyddau sydd angen gwrthsefyll traul a gwisgo – a phwysleisio dichonoldeb economaidd a buddion amgylcheddol.

Cymorth technegol ar gael

Gall WRAP Cymru eich cynorthwyo i fynd i’r afael â heriau masnachol a thechnegol wrth gynyddu’r deunyddiau eilgylch a ddefnyddir mewn nwyddau a gynhyrchir yng Nghymru. Gallwn ddarparu cyngor technegol wedi’i deilwra ar ailwampio offer i gyflwyno neu wella allbwn eilgylch.

Gallwn eich helpu i ail-ddylunio nwyddau i leihau’r deunydd a ddefnyddir a chynyddu ailddefnyddio ac ailgylchadwyedd nwyddau a/neu ddeunyddiau pacio.

Manteisiwch ar ein cymorth i roi nodweddion perfformiad ffrydiau deunyddiau eilaidd ar brawf. Cysylltwch â: Resources.Wales@wrap.org.uk

 

Am wybodaeth ynghylch bob prosiect cadwyn gyflenwi, defnyddiwch y dolenni canlynol, os gwelwch yn dda:

Treial Gwastraff Amaethyddol LDPE a LLDPE

Treial Gwastraff Amaethyddol LDPE a LLDPE

Llwyddodd y prosiect hwn i ymgorffi ffilm LDPE ac LLDPE eilgylch wrth weithgynhyrchu nwyddau wedi'u fowldio'n cylchdroadol.

Darganfod mwy
Treial HDPE a PP ar gyfer y Sector Adeiladu a Chludo Nwyddau Peryglus

Treial HDPE a PP ar gyfer y Sector Adeiladu a Chludo Nwyddau Peryglus

Llwyddodd y prosiect hwn i ymgorffi deunydd eilgylch i fewn cyfansoddion
ysgafn polmer-sment; a chynwysyddion ar gyfer cludo nwydday peryglus.

Darganfod mwy
Treial PP ar gyfer y Sector Meddygol a’r Sector Nwyddau ar gyfer y Cartref

Treial PP ar gyfer y Sector Meddygol a’r Sector Nwyddau ar gyfer y Cartref

Llwyddodd y prosiect hwn i ymgorffori deunydd ailgylch ar gyfer cynhyrchu cadi gwastraff bwyd; fflap tryloyw a gyflenwir fel rhan o gynhwysydd nodwyddau meddygol; a chynhwysydd nodwyddau meddygol.

Darganfod mwy
Treial PE a LDPE ar gyfer y Sector Adeiladu

Treial PE a LDPE ar gyfer y Sector Adeiladu

Llwyddodd y prosiect hwm i ymgorffi ffilm AG a PLDP ailgylch mewn tybiau morter, gan gyfateb gwytnwch a chadernid eu cymheiriaid gwyryf.

Darganfod mwy

Economi gylchol fyd-eang ar gyfer plastigion

Yn ogystal â gwaith WRAP Cymru ar gyflymu’r newid tuag at economi gylchol yng Nghymru, mae WRAP yn gweithio gyda busnesau ar draws cadwyn werth plastigion ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Trwy rwydwaith y Plastics Pact, rydym yn trawsnewid y ffordd rydym yn gwneud, defnyddio, casglu, didoli, ailddefnyddio ac ailgylchu plastigion i greu economi gylchol fyd-eang, yn manteisio ar werth plastig, yn ei gadw yn yr economi ac allan o’r amgylchedd naturiol.

Mae cytundebau gwirfoddol WRAP yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i drawsnewid systemau cyfan yn uno busnesau, llywodraethau a dinasyddion ar gyfer gweledigaeth ar y cyd a thargedau mesuradwy ar gyfer newid.

Am fwy o wybodaeth, ewch draw i’r wefan: www.wrap.org.uk/taking-action/plastics-packaging/initiatives (Saesneg yn unig).