Effaith ariannol cyflwyno casgliadau ailgylchu sych wedi’u cysoni i Awdurdodau Cymru.

Crynodeb Gweithredol

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu WRAP i ehangu ar brosiectau modelu casgliadau ailgylchu blaenorol ac ystyried yr arbedion ariannol ledled Cymru pe byddai awdurdodau’n cyflwyno system casglu ailgylchu sych, ailgylchu gwastraff bwyd a gwastraff domestig gweddilliol wedi’i gysoni.

Mae’r gwaith yn cynnwys dau gam:

  • Cam un: Cymharu costau gweithredol uniongyrchol dulliau casglu ailgylchu gwahanol;
  • Cam dau: Dadansoddi goblygiadau ariannol strwythurau cyflwyno gwahanol, yn benodol, sut mae gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn cael eu cyflwyno yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Mae’r adroddiad hwn yn manylu ar ganlyniadau cam cyntaf y gwaith. Yn y cam hwn, modelwyd cost gyfartalog awdurdodau trefol, gwledig ac yn y Cymoedd sy’n darparu un o’r tri phroffil gwasanaeth casglu ailgylchu sych gwahanol. Rhagdybiwyd fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn fewnol, gan mai dyma’r achos yn y rhan fwyaf o Awdurdodau Cymru.

Nid yw’r adroddiad hwn yn ystyried unrhyw gostau neu arbedion posibl yn codi o wasanaethau gwastraff yn cael eu darparu gan gyrff rhanbarthol neu genedlaethol.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-prosiect-costau-casgliadau-ailgylchu-wediu-cysoni-2016.pdf

    PDF, 977.43 KB

    Lawrlwytho

Tagiau