Mae system dolen gaeedig Mainetti yn cyflawni manteision amgylcheddol a masnachol.

Crynodeb

Mae effeithiau amgylcheddol nwyddau yn destun pryder cynyddol i fusnesau a defnyddwyr ac mae manwerthwyr, gwneuthurwyr dillad a’u cadwyni cyflenwi oll yn ceisio gwneud gwell defnydd o’r adnoddau sydd ar gael iddynt. Un cwmni sydd ag arfer amgylcheddol da wrth galon ei waith yw’r Mainetti Group.

Mainetti yw’r cyflenwr ac ailgylchwr cambrenni  dillad plastig byd-eang mwyaf. Yn eu canolfan yn Wrecsam, ailddefnyddir ac ailgylchir 350 miliwn o gambrenni ac ategolion o farchnad y DU bob blwyddyn, gan eu hatal rhag mynd i dirlenwi. Mae cyfanswm o 260 miliwn o gambrenni yn cael eu hadfer a'u hailddefnyddio bob blwyddyn, a’r gweddill yn cael ei brosesu i adennill 5,000 tunnell o ddeunydd plastig,  a defnyddir i gynyrchu cambrenni newydd sbon yn eu canolfannau gweithgynhyrchu yn y Deyrnas Unedig a thramor. Canlyniad hyn yw eu bod wedi creu system dolen gaeedig, gylchol – gyda lleihad o 75% yn eu ôl troed carbon. Defnyddir yr holl ddeunydd a gynhyrchir trwy gronynnau’r hen gambrenni i gynhyrchu cynhyrchion newydd.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-astudiaeth-achos-mainetti-2018.pdf

    PDF, 238.3 KB

    Lawrlwytho

Tagiau

Sectorau

Cynhyrchwyr