Cyn i WRAP Cymru gamu i mewn, roedd EcoKeg yn llwyr ddibynnol ar un ffynhonnell HDPE eilgylch. Er mwyn lliniaru’r risg hon, archwiliodd WRAP Cymru ffynonellau porthiant eraill, ac adnabod ac ymgysylltu â chyflenwyr eraill. Cafwyd trafodaeth gyda nifer o ailbroseswyr plastigion a rhoddwyd sypiau sampl trwy’r allwthiwr i asesu eu haddasrwydd.

Ffeithiau Allweddol

  • Trwy ddefnyddio HDPE eilgylch, mae EcoKeg yn arbed 2.6 tunnell o CO2e o’i gymharu â HDPE newydd.
  • Mae’r EcoKeg yn cynnig mantais ôl troed carbon ychwanegol gan ei fod yn ‘ysgafnhau’ llwythi, sydd hefyd yn arwain at leihau costau trafnidiaeth.
  • Cyflawnir lleihad mewn costau a phwysau heb gyfaddawdu ar gynnal ffresni’r cynnyrch.
  • Mae’r gasgen yn hawdd i’w defnyddio gyda system falf symudadwy, felly mae ailddefnyddio’r unedau yn gwneud y gasgen hon yn ddewis arbennig o hyblyg ac apelgar i fragdai llai.

Crynodeb

Mae EcoKeg, cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr, De Cymru, yn cynhyrchu casgenni diod sydd yn debyg iawn i gasgenni dur, ond a gaiff eu cynhyrchu gyda dull arloesol gan ddefnyddio polyethylen dwysedd uchel (high-density polyethylene/HDPE) eilgylch. Mae eu gwneuthuriad HDPE unigryw yn golygu mai dyma’r unig gasgenni cwbl ailgylchadwy ar y farchnad.

Fodd bynnag, er mwyn cynnal gweithrediadau cynhyrchu’n effeithiol, roedd angen i EcoKeg arallgyfeirio a lleihau’r risg ynghlwm â chyflenwad er mwyn lliniaru’r ddibyniaeth ar un ffynhonnell o HDPE eilgylch.

Gyda chefnogaeth WRAP Cymru, cafodd gweithrediadau EcoKeg eu diogelu'n llwyddiannus trwy benodi dau gyflenwr ychwanegol sydd yn diwallu gofynion maint ac ansawdd yn gost effeithiol.

Hefyd, ymgymerodd WRAP Cymru ag ymgyrch farchnata wedi'i thargedu drwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy anfon ebostiau uniongyrchol i helpu i dyfu sylfaen cwsmeriaid presennol EcoKeg, gan gynyddu’r galw am eu cynnyrch arloesol.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-astudiaeth-achos-ecokeg-2018.pdf

    PDF, 171.53 KB

    Lawrlwytho

Tagiau

Sectorau

Cynhyrchwyr