Mae’r Adnodd ar gyfer Mapio Deunyddiau Gylchol Cymru wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, a’i ddatblygu gan WRAP Cymru gyda chymorth gan Resilience Sustainable Solutions a Green Edge Applications Limited.

Bwriad y Map Deunyddiau yw helpu i gefnogi mwy o gydweithredu rhwng y busnesau lu sy’n rhan o’r sector plastigion a phapur yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle i fusnesau ehangu mwy ar eu dealltwriaeth o’r diwydiant plastigion a phapur, gyda’r nod drosfwaol o greu economi gylchol ar gyfer plastigion a phapur yng Nghymru.

Cyflwyniad i’r Map Deunyddiau Gylchol

Beth mae’r Map Deunyddiau yn ei wneud?

Mae’r Map Deunyddiau wedi’i gynllunio i:

  1. Galluogi Cymru i greu economi gylchol ar gyfer plastigion a phapur drwy ddarparu gwybodaeth am gwmnïau ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi. 
  2. Darparu gwybodaeth bwysig am y diwydiant plastigion a phapur yng Nghymru, yn cynnwys y mathau o ddeunyddiau plastig a phapur eilgylch sydd ar gael.
  3. Ei gwneud yn haws i gynhyrchwyr ddod o hyd i’r deunyddiau y mae eu hangen arnynt i greu nwyddau o blastig a phapur eilgylch.

Ar gyfer pwy mae’r Map Deunyddiau?

Mae’r Map Deunyddiau ar gyfer cynhyrchwyr nwyddau plastig a phapur er mwyn cyrchu deunydd eilgylch, ar gyfer cwmnïau gwastraff ac ailbroseswyr er mwyn canfod darpar gwsmeriaid yn y sector gweithgynhyrchu a allai ddefnyddio eu deunydd eilgylch neu sydd angen cyrchu plastigion a phapur gwastraff i’w ailbrosesu.

Nid yw’r Map Deunyddiau yn darparu gwybodaeth dyletswydd i ofalu ynghylch cwmnïau gwastraff. Ewch i ymofyn cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru gan ddefnyddio’r cofrestrau cyhoeddus ar eu gwefan, os gwelwch yn dda.

Ffynonellau Data

Cyrchwyd ein data o Dŷ’r Cwmnïau, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ar ben hynny, rydym wedi ychwanegu at y data hwn yn uniongyrchol gyda gwybodaeth a roddwyd i ni gan busnesau unigol. Casglwyd data plastig rhwng 2018 a 2020 a chasglwyd data papur rhwng 2020 a 2021.

Hyd eithaf gwybodaeth WRAP, mae’r data’n gyfredol hyd fis Hydref 2021. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr adnodd, neu os hoffech ychwanegu (neu ddiweddaru) manylion eich busnes ar y Map Deunyddiau, cysylltwch â ni ar Resources.Wales@wrap.org.uk, os gwelwch yn dda.

“Does mo’r fath beth ag ‘i ffwrdd’ pan gaiff rhywbeth ei daflu, mae’n rhaid iddo fynd i rywle”

Annie Leonard, Cyfarwyddwr Gweithredol Greenpeace 

PARHAU - Cychwyn Arni

Tagiau