Cychwyn Arni

Mae’r fideo arddangos isod yn dangos ichi sut i gael yr wybodaeth y mae ei hangen arnoch o’r Map Deunyddiau.

Chwilio yn ôl y Mathau o Drwyddedau

Mae’r tab hwn yn dangos safleoedd gwastraff sy’n ymdrin â phlastigion a phapur dan drwydded neu eithriad. Mae’r math o drwydded neu eithriad yn rhoi gwybodaeth am y prosesau a gynhelir, er enghraifft, os rydych chi’n chwilio am blastig wedi’i rwygo’n fân i’w droi’n belenni, dewiswch ‘triniaethau paratoi/preparatory treatments’. Mae’n bosibl bod gorsafoedd trosglwyddo hefyd yn gwahanu ac yn rhwygo plastigion.

Mae’r nodweddion defnyddiol yn cynnwys:

  • Gallwch hidlo un neu fwy o awdurdodau lleol o’r gwymplen i chwilio am safleoedd o fewn ardal ddaearyddol benodol, e.e. yn lleol i’ch cyfleuster chi.
  • Hidlwch yn ôl y math o drwydded i’ch helpu i gyfyngu eich opsiynau i ddod o hyd i fath, neu ffurf, y deunydd rydych chi’n chwilio amdano.
  • Hidlwch yn ôl y math o safle i ddod o hyd i’r math o broses rydych chi’n chwilio amdani. 

 

 

Defnyddiwch yr wybodaeth ar y Map Deunyddiau Gylchol i greu economi gylchol ar gyfer plastigion a phapur yng Nghymru.

PARHAU - Dod o hyd i gymorth

Tagiau