Cychwyn Arni

Mae’r fideos arddangos isod yn dangos ichi sut i gael yr wybodaeth y mae ei hangen arnoch o’r Map Deunyddiau.

Chwilio fesul Math o Safle

Gallwch ddefnyddio’r cyfleuster chwilio hwn i chwilio am gwmnïau o fewn eich cadwyn gyflenwi drwy ddewis y math o safle y mae ei angen arnoch.

Os mai cwmni gwastraff yn chwilio am gynhyrchwyr a allai ddefnyddio eich deunydd eilgylch ydych chi, hidlwch yn ôl ‘cynhyrchwr’.

Os mai cynhyrchwr yn chwilio am ddeunydd eilgylch, neu safle gwastraff sy’n dymuno anfon eich gwastraff i gael ei ailgylchu ydych chi, hidlwch yn ôl un o’r opsiynau ‘ailbroseswr’.

Os mai ailbroseswr yn chwilio am wastraff i’w ailgylchu ydych chi, hidlwch yn ôl ‘safleoedd gwastraff’.

Mae’r nodweddion defnyddiol yn cynnwys:

  • Gallwch hidlo yn ôl rhanbarth dan y blwch “dewis rhanbarth” ar y map, e.e. De Ddwyrain Cymru.
  • Gallwch glicio’r gwymplen i ddangos cwmnïau o fewn y meini prawf a ddewisoch.
  • Gallwch hofran dros ddotyn ar y map, sy’n cynrychioli safle, i ddangos mwy o fanylion am y safle. Pan fo gwybodaeth ar gael, gallwch ddod o hyd i’r union fath o deunydd rydych chi’n chwilio amdano ac ar ba ffurf y caiff ei gyflenwi.

 

Tagiau