Mae Llywodraeth Cymru a WRAP Cymru’n ymwybodol bod nifer o sefydliadau’n wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i COVID-19. Fel ymateb i hyn, rydym wedi gwneud newidiadau i’r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5miliwn, sydd wedi’u cynllunio er mwyn cefnogi mwy fyth o sefydliadau yn gyflymach.

Yn ogystal ag ariannu’r defnydd o ddeunyddiau eilgylch mewn nwyddau, mae WRAP Cymru nawr yn gallu cefnogi gweithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchu nwyddau cynaliadwy i gynorthwyo yn y frwydr fyd-eang yn erbyn coronafeirws.

Y Gronfa Economi Gylchol

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-cef-siart-lif-gymhwystra-2021.pdf

    PDF, 119.65 KB

    Lawrlwytho

Tagiau