Layered textiles

Sefydliadau’n ymestyn hyd oes nwyddau

Ymestyn hyd oes ddefnyddiol nwyddau yng Nghymru

Gweledigaeth WRAP o fyd ble caiff adnoddau eu defnyddio’n gynaliadwy sydd wrth galon darpariaeth WRAP Cymru o’r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5 miliwn, un o fentrau Llywodraeth Cymru.

Lansiwyd y gronfa i alluogi cynhyrchwyr yng Nghymru i gynyddu eu defnydd o ddeunydd eilgylch, ac mae cwmpas y gronfa wedi’i ehangu ers hynny i gefnogi gweithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, ac ailgynhyrchu yng Nghymru.

Caiff sefydliadau cymwys o unrhyw faint, sy’n chwilio am gyllid cyfalaf i ymestyn hyd oes ddefnyddiol nwyddau, wneud cais am grant o £25,000 i £750,000.

Y Gronfa Economi Gylchol

Dysgwch fwy am y Gronfa Economi Gylchol, yn arbennig ar gyfer sefydliadau sy’n gweithredu yng Nghymru