Defnyddio deunydd eilgylch yn mewn gweithgynhyrchu yng Nghymru
Os yw Cymru am wireddu economi gwirioneddol gylchol, mae rhan allweddol i’w chwarae gan y sector gweithgynhyrchu.
Mae WRAP Cymru yn cefnogi cynhyrchwyr yng Nghymru i gynyddu eu defnydd o blastig, papur / cardfwrdd a thecstilau eilgylch drwy’r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5 miliwn, un o fentrau Llywodraeth Cymru.
Mae grantiau cyfalaf o £25,000 i £750,000 ar gael i sefydliadau cymwys o unrhyw faint.
Rydym hefyd yn darparu prosiectau arddangos ar y gadwyn gyflenwi i ddangos sut gall cynhyrchwyr oresgyn rhwystrau i ddefnyddio deunydd eilgylch.