Information to help you plan, deliver and evaluate communications to support changes to waste and recycling collection services

Rhaglen Newid Gydweithredol (CCP): adnoddau allweddol

Gwefannau defnyddiol

  • Y Local Authority Waste and Recycling Information Portal. Mae’r Porth hwn yn rhoi mynediad i ddata ar wasanaethau ailgylchu a gwastraff awdurdodau lleol yn y DU, gan gynnwys meincnodau perfformiad ar gyfer casgliadau ailgylchu sych ymyl y ffordd, gwastraff organig a gwastraff gweddilliol. Mae hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol ddiweddaru gwybodaeth am gynlluniau, sy’n cysylltu â Lleolydd Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu (a grybwyllir isod). Mae tîm Rhaglen Newid Gydweithredol WRAP Cymru (CCP) yn rheoli’r wybodaeth a gyflwynir yma ar ran awdurdodau yng Nghymru.
  • Lleolydd Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu. Mae'r cyfleuster chwilio ar-lein hwn yn galluogi dinasyddion i ddarganfod beth y gallant ei ailgylchu gartref neu yn eu hardal leol. Mae'r wybodaeth a gyflwynir yn adlewyrchu'r wybodaeth cynllun a arbedwyd ar Y Local Authority Waste and Recycling Information Portal (a grybwyllir uchod).
  • Fy Ailgylchu Cymru. Mae’r wefan hon yn galluogi dinasyddion i bori awdurdodau lleol Cymru a gweld beth sy’n digwydd i’w gwastraff ledled y Deyrnas Unedig, a hyd yn oed o gwmpas y byd. 
  • Glasbrint Casgliadau: Arferion gorau ym maes dargyfeirio. Mae’r wefan yn cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos sut, trwy fabwysiadu Glasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru, mae awdurdodau lleol yn cyflawni mwy o gysondeb gwasanaeth ar draws Cymru ac yn cyflawni’r targedau uchelgeisiol a osodwyd yn strategaeth 'Mwy nag ailgylchu' Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych gwestiwn am unrhyw un o’r gwefannau hyn, neu os hoffech ddiwygio’r wybodaeth a ddangosir ar gyfer eich awdurdod lleol, e-bostiwch CCP@wrap.org.uk.


Gwefannau eraill perthnasol

Dogfennau cysylltiedig

Nôl i'r Rhaglen Newid Gydweithredol (CCP)