Making the biggest impact to ensure people and planet thrive
Sefydlwyd WRAP fel cwmni dielw yn 2000; rydym yn elusen ers 2014.
Rydym yn hyrwyddo ac yn annog defnyddio adnoddau’n gynaliadwy trwy ddylunio nwyddau, lleihau gwastraff, ailddefnyddio, ailgylchu ac ailbrosesu deunyddiau gwastraff. Rydym yn gweithio ar draws chwe chyfandir gyda llywodraethau, busnesau a dinasyddion i greu byd lle caiff adnoddau eu cyrchu a’u defnyddio’n gynaliadwy.
Mae ein tystiolaeth yn ysbrydoli gweithredu yn y meysydd sy’n creu’r mwyaf o wastraff. Rydym yn tynnu’r bobl iawn ynghyd o fusnesau, llywodraethau a chymunedau. Gyda’n gilydd, rydym yn dod o hyd i atebion ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn.
Rydym yn gweithio lle gallwn gael yr effaith fwyaf i sicrhau ffyniant pobl a’r blaned.
Dysgwch sut mae WRAP Cymru yn cael effaith yng Nghymru
Caffael yn y Sector Cyhoeddus
Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario oddeutu £6 biliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau. Felly, mae cyfle sylweddol i gyrff cyhoeddus ddefnyddio caffael i gyflawni canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cadarnhaol.
Mae WRAP Cymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus yng Nghymru i ymwreiddio cynaliadwyedd yn eu strategaethau a’u gweithgareddau caffael.
Y Gronfa Economi Gylchol
Mae cynhyrchu nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch ac ymestyn hyd oes ddefnyddiol nwyddau yn ganolog i wireddu economi gylchol. Mae’r Gronfa Economi Gylchol sy’n werth £6.5 miliwn – un o fentrau Llywodraeth Cymru, a ddarperir gan WRAP Cymru – yn helpu i gyflymu newid Cymru tuag at economi gylchol.
Caiff sefydliadau wneud cais am grant cyfalaf, o £25,000 hyd £750,000, i fuddsoddi mewn seilwaith ac offer i gadw adnoddau’n ddefnyddiol cyhyd â phosibl.
Y Rhaglen Newid Gydweithredol Cymru
Mae’r Rhaglen Newid Gydweithredol yn darparu cymorth i helpu awdurdodau lleol Cymru ddatblygu a chyflawni cynlluniau manwl er mwyn cyflawni strategaeth wastraff Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff.
Caiff awdurdodau lleol wneud cais i WRAP Cymru am amrywiaeth o gymorth strategol a thechnegol a chyngor ar gyfathrebu; ynghylch newidiadau gwasanaeth, er enghraifft.
Newid Ymddygiad Dinasyddion
Mae gan WRAP dîm o arbenigwyr hynod alluog, gyda phrofiad o gynllunio, darparu a mesur atebion ac ymyraethau newid ymddygiad effeithiol.
Mae ymgyrchoedd WRAP ar gyfer dinasyddion yn grymuso unigolion i weithredu, drwy rannu negeseuon i ysbrydoli ynghyd â chyngor ymarferol. Un ymgyrch o’r fath yw Ailgylchu Nawr, sy’n cynnwys ymgyrch ailgylchu cenedlaethol Cymru, Cymru yn Ailgylchu.

Lle mae WRAP yn gweithio
Mae WRAP yn gweithio ar draws chwe chyfandir ar wastraff bwyd, deunydd pacio plastig, dillad a thecstilau, a chasgliadau ac ailgylchu.

Gwasanaethau WRAP
Mae arbenigedd WRAP yn ymwneud â chytundebau gwirfoddol gan fusnesau, newid ymddygiad dinasyddion, cymorth technegol, cyllid ar gyfer sefydliadau drwy reoli cronfeydd, a gwaith polisi a dirnadaethau.

Sut mae WRAP yn gweithio
Dull WRAP yw gweithio drwy gasglu tystiolaeth, cydweithio, hwyluso a darparu, a gwerthuso.