Gweledigaeth WRAP yw byd ffyniannus lle nad yw newid hinsawdd yn broblem mwyach

Darganfod mwy

Ailddyfeisio, ailfeddwl ac ailddiffinio’r hyn sy’n bosibl

Mae WRAP yn gweithio gyda llywodraethau, busnesau a chymunedau i ddarparu atebion ymarferol i wella effeithlonrwydd adnoddau ym mhedwar ban byd. Dysgwch fwy am y sectorau rydym yn gweithio gyda hwy yng Nghymru:

Sectorau

Mae ein ffordd o fyw heddiw yn niweidio ein planed

Gweithredu

Mae WRAP Cymru yn cefnogi’r newid tuag at economi wirioneddol gylchol yng Nghymru, lle caiff gwastraff ei ddiddymu ac adnoddau eu cadw’n ddefnyddiol cyhyd â phosibl. Ynghyd â bod yn dda i’r amgylchedd, gallai economi sy’n wirioneddol gylchol greu hyd at 30,000 o swyddi newydd a chyflawni arbedion blynyddol o hyd at £1.9biliwn mewn costau deunyddiau yn unig.

Trwy ddatblygu economi gylchol ar gyfer Cymru, gallwn helpu i leihau’r galw am adnoddau naturiol i lefel y gallai’r blaned ei gyflenwi’n gynaliadwy. Yn hollbwysig, mae’r potensial hefyd gan economi o’r fath i fodloni anghenion poblogaeth fyd-eang sydd ar ei thwf heb gyfaddawdu ar genedlaethau’r dyfodol i ddiwallu anghenion y boblogaeth.

Pwy y mae WRAP yn gweithio gyda nhw

Sectorau