Harneisio pŵer caffael cyhoeddus

24 Ebrill 2020

Mae pwysigrwydd yr economi gylchol, sy’n cadw adnoddau’n ddefnyddiol cyhyd â phosibl, yn cael cydnabyddiaeth ehangach nag erioed y dyddiau hyn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru’n ailgylchu, ac mae cynhyrchwyr yn ymateb i ewyllys y cyhoedd trwy ddefnyddio swm cynyddol o ddeunyddiau eilgylch yn eu nwyddau.

Yn ogystal â chefnogi cynhyrchwyr i gynyddu’r deunydd eilgylch yn y nwyddau y maent yn eu cynhyrchu yng Nghymru – trwy gyfrwng y Gronfa Economi Gylchol, er enghraifft – mae WRAP Cymru hefyd yn gweithio i sbarduno mwy o alw am nwyddau o’r fath.

Canfu ein gwaith ymchwil ac ymgynghori gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru bod cyfle i gynorthwyo cyrff cyhoeddus i ymwreiddio cynaliadwyedd yn eu strategaethau a’u gweithgareddau caffael. Felly, dyna’n union yr ydym yn ei wneud. Gyda’n profiad helaeth a chysylltiadau yn y ddolen gyflenwi, rydym yn darparu cymorth i helpu prynwyr fynnu nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch, a hefyd nwyddau i’w hailddefnyddio.

Mae ein hadroddiad Tuag at Fap Llwybr ar gyfer Ailgylchu Plastig, 2018, yn argymell y dylai sector cyhoeddus Cymru arwain y gad ar gaffael ‘gwyrdd’. Gall ddefnyddio ei bŵer prynu i annog cylcholdeb yn y ffordd y defnyddiwn ddeunyddiau. Mae’r sector yn gwario oddeutu £6 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau bob blwyddyn, felly mae potensial sylweddol i ymwreiddio caffael cynaliadwy. Bydd hefyd o gymorth i gyrff cyhoeddus wrth gyflawni nodau ‘Y Gymru a garem’ yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

At hynny, mae cynllun cyflawni ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel’ yn gosod ymrwymiad i’r sector cyhoeddus ddatgarboneiddio erbyn 2030. Bydd hyn yn gofyn am newid sylfaenol yn y ffordd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu caffael. Bydd gwneud y penderfyniadau iawn nawr – ynghyd â strategaethau caffael mwy hirdymor – yn cynorthwyo’r sector cyhoeddus i gyflawni’r ymrwymiad hwn.

Mae Llywodraeth Cymru’n cyflymu taith Cymru tuag at economi gylchol ymhellach gyda’u strategaeth ‘Mwy nag Ailgylchu’, sy’n amlinellu wyth cam gweithredu arfaethedig. Mae’r rhain yn cynnwys blaenoriaethu cynnwys wedi’i ailddefnyddio a’i ailgynhyrchu yn y nwyddau y mae’r sector cyhoeddus yn eu prynu. Fel y nodir yn y strategaeth, mae’r cam nesaf yn gofyn am ‘newid sylweddol yn y ffordd y mae pawb yn ymddwyn ac yn meddwl am y nwyddau rydym yn eu gwneud a’u defnyddio’. Mae gan bawb ran i’w chwarae. Er enghraifft, dylai pob sefydliad fod yn gosod targedau cynnwys ailgylchu ac yn olrhain cynnydd yn unol â’r targedau hynny.

Er mis Hydref, mae WRAP Cymru wedi helpu i sicrhau bod arferion caffael cynaliadwy wedi cael eu mabwysiadu ar gyfer dros £300 miliwn o wariant y sector cyhoeddus yng Nghymru, trwy ddarparu cefnogaeth ac arbenigedd am ddim i sefydliadau’r sector cyhoeddus ledled Cymru, ac rydym yn croesawu ymholiadau o hyd. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer caffael plastigion, sydd ar gael ar ein gwefan, ynghyd ag astudiaethau achos a mwy. Os ydych chi’n gweithio i gorff cyhoeddus yng Nghymru, beth am daro golwg arno? Gallwch gysylltu â ni a gallwn eich cynorthwyo i harneisio pŵer caffael cynaliadwy ac arwain y ffordd.