A plastic bottle being picked up with tongs

Gweithredu

Mae ein ffordd o fyw heddiw yn niweidio ein planed

Hoffem eich helpu i fynd i’r afael ag achosion yr argyfwng hinsawdd.

Rhaid inni roi’r gorau i wastraffu ein hadnoddau naturiol. Dylid ailddefnyddio ac ailgylchu popeth a ddefnyddiwn. Gall WRAP eich helpu i warchod y blaned drwy newid y ffordd caiff pethau eu cynhyrchu, eu defnyddio a’u gwaredu.

Ein gweledigaeth yw byd ffyniannus lle nad yw newid hinsawdd yn broblem mwyach.

Mae WRAP Cymru yn cefnogi’r newid tuag at economi wirioneddol gylchol yng Nghymru, lle caiff gwastraff ei ddiddymu ac adnoddau eu cadw’n ddefnyddiol cyhyd â phosibl. Ynghyd â bod yn dda i’r amgylchedd, gallai economi sy’n wirioneddol gylchol greu hyd at 30,000 o swyddi newydd a chyflawni arbedion blynyddol o hyd at £1.9biliwn mewn costau deunyddiau yn unig.

Trwy ddatblygu economi gylchol ar gyfer Cymru, gallwn helpu i leihau’r galw am adnoddau naturiol i lefel y gallai’r blaned ei gyflenwi’n gynaliadwy. Yn hollbwysig, mae’r potensial hefyd gan economi o’r fath i fodloni anghenion poblogaeth fyd-eang sydd ar ei thwf heb gyfaddawdu ar genedlaethau’r dyfodol i ddiwallu anghenion y boblogaeth.

Mae gan WRAP Cymru adnoddau sy’n benodol i Gymru y gallwch bori drwyddynt i’ch helpu i weithredu, neu ewch i’r wefan www.wrap.org.uk i ddarganfod sut mae WRAP yn gweithio gyda llywodraethau, busnesau a dinasyddion ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Chwilio drwy ffyrdd o weithredu:

  • Cefnogi caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

    Caffael yn y sector cyhoeddus

    Cefnogaeth i helpu cyrff cyhoeddus Cymru ymwreiddio cynaliadwyedd yn eu strategaethau a gweithgareddau caffael

  • Y Gronfa Economi Gylchol

    Cronfa Economi Gylchol

    Grantiau cyfalaf ar gyfer defnyddio deunydd eilgylch mewn nwyddau ac i ymestyn hyd oes ddefnyddiol nwyddau

  • Rhaglen Newid Gydweithredol (CCP)

    Y Rhaglen Newid Gydweithredol

    Cymorth i helpu awdurdodau lleol Cymru gyflawni deilliannau strategaeth wastraff Cymru

  • Newid ymddygiad dinasyddion

    Newid ymddygiad dinasyddion

    Cymorth i rymuso unigolion i fabwysiadau ymddygiadau cynaliadwy, trwy gyfrwng negeseuon i ysbrydoli a chyngor ymarferol