Er mwyn cyflawni sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030, mae’n rhaid inni ddechrau newid y ffordd yr ydym yn prynu, defnyddio, atgyweirio a gwaredu ein nwyddau a gwasanaethau. Mae WRAP Cymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn darparu cymorth caffael cynaliadwy am ddim i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru ers 2016.
Cynigir cymorth strategol i wreiddio egwyddorion cynaliadwyedd a charbon isel mewn strategaethau a gweithgareddau caffael. Gall hyn helpu cyrff cyhoeddus Cymru gyrraedd y Nodau Llesiant a gyflwynir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf LlCD) a bydd yn elfen hollbwysig o greu sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030 drwy leihau allyriadau cwmpas 3 (y rhai sy’n gysylltiedig â phrynu nwyddau a gwasanaethau).
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae cymorth strategol wedi’i ariannu ar gael i sector cyhoeddus Cymru ar gyfer:
- dylunio ac adolygu polisïau a rhoi strategaethau ar waith i gynyddu gallu sefydliadau i gaffael mewn modd carbon isel sy’n effeithlon o ran adnoddau;
- sbarduno newid diwylliannol i wreiddio caffael cynaliadwy ar draws adrannau a sefydliadau
Mae sector cyhoeddus Cymru’n gwario oddeutu £8 biliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau. Gan hynny, mae cyfle sylweddol yn bodoli i gyrff cyhoeddus ddefnyddio caffael i ddylanwadu ac i gyflawni canlyniadau amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol cadarnhaol, fel y’i nodir yn Neddf LlCD.
Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â Pholisi Caffael Llywodraeth Cymru a’i strategaeth Mwy nag Ailgylchu. Mae’r strategaeth yn cynnwys wyth prif amcan uchelgeisiol er mwyn sbarduno siwrne Cymru tuag at economi gylchol ac mae’n rhwymo sector cyhoeddus Cymru i flaenoriaethu defnyddio cynnwys wedi’i ailgylchu, wedi’i ailddefnyddio ac wedi’i ailgynhyrchu yn y nwyddau a brynir.
Mae arddel dull cynaliadwy o gaffael hefyd yn cyd-fynd a’r cynllun cyflawni ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel’, sy’n cyflwyno ymrwymiad i’r sector cyhoeddus ddatgarboneiddio erbyn 2030. Bydd hyn yn galw am newid sylfaenol yn y ffordd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu caffael. Bydd penderfyniadau a wneir nawr – yn ogystal â strategaethau caffael yn y tymor hwy – yn dylanwadu ar allu’r sector cyhoeddus i fodloni’r ymrwymiad hwn.
Mae WRAP Cymru, mewn cydweithrediad ag ymgynghorwyr arbenigol, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, yn cynnwys:
- Yr Adolygiad Aeddfedrwydd Caffael Cynaliadwy, i feincnodi arferion caffael cynaliadwy eich sefydliad a derbyn argymhellion penodol er mwyn gwella a gwreiddio caffael cynaliadwy a charbon isel.
- Gweithdai gyda chaffaelwyr a chyflenwyr i godi ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd, archwilio arfer gorau a chanfod atebion i alluogi caffael carbon isel.
- Hyfforddiant i staff caffael ar egwyddorion ac arfer caffael nwyddau wedi’u hailddefnyddio a nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch ac asesiadau effaith cylch oes.
- Adolygiadau gwario strategol i ddod o hyd i gyfleoedd a llunio strategaethau caffael i gyrchu mwy o nwyddau wedi’u hailddefnyddio neu nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch, gan arddel dull targedu, mesur, gweithredu.
- Cynorthwyo i lunio manylebau, dangosyddion perfformiad allweddol a meini prawf cynaliadwyedd i’w defnyddio mewn ymarferion caffael.
- Llunio adnoddau rheoli contract wedi’u teilwra, a hyfforddi caffaelwyr a chyflenwyr i’w defnyddio i alluogi gwerthuso, monitro, adrodda rheoli perfformiad cyflenwyr yn gywir yn erbyn amcanion amgylcheddol penodol.
- Modelu opsiynau i ganfod cyfleoedd a blaenoriaethau strategol (fel ffactorau sy’n dylanwadu yn cynnwys arbedion cost, arbedion carbon, lleihad mewn deunyddiau, cyflawni yn erbyn y Nodau Llesiant ac ati).
- Llunio canllawiau ac astudiaethau achos ar gyfer hyrwyddo ac arfer gorau parhaus.
Mynd ati i ofyn am gymorth strategol i’ch sefydliad sector cyhoeddus
I ofyn am gymorth neu am fwy o wybodaeth, anfonwch ebost yn uniongyrchol at y tîm ar Resources.Wales@wrap.org.uk
Fe’ch anogwn hefyd i ddarllen yr astudiaethau achos isod, sy’n amlinellu enghreifftiau o arfer gorau ac yn cynnwys dolen i’n canllaw ar gyfer y sector cyhoeddus.
Astudiaethau achos
-
Caffael dodrefn ‘ail fywyd’ ar gyfer CLlLC a CGGC
-
Arbedion cost a lleihau gwastraff drwy gaffael cynaliadwy
-
Cyfoeth Naturiol Cymru: Caffael Coed yn Gynaliadwy
-
Cymharu Opsiynau Pecynnu Llaeth ar gyfer Ysgolion Cynradd Sir Fynwy
-
Cymharu Opsiynau Pecynnu Llaeth ar gyfer Ysgolion Cynradd Sir Benfro
-
Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus - Cyflawni nodau llesiant trwy brosesau caffael
-
Gwreiddio Cylcholdeb yn Adnewyddiad Swyddfa Canolfan Ddinesig Cyngor Abertawe
-
Gweithle Ysbrydoledig a Chydweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru
-
Tuag at Economi Gylchol yn GIG Cymru – Atgyweirio ac Adnewyddu Offer Symudedd
Canllaw
-
Cyflwyniad i Gostiad Oes Gyfan
-
Rhoi Ail Fywyd i Ddodrefn
-
Canllaw Ymgysylltu'n Gynnar Â’r Farchnad Ar Gyfer Caffael Cynaliadwy
-
Canllawiau Hierarchaeth Caffael Cynaliadwy
-
Canllaw i’r sector cyhoeddus ar gaffael nwyddau cynaliadwy
-
Canllaw i’r sector cyhoeddus ar gaffael plastigion
-
Caffael Cylchol Carbon Isel sy'n Defnyddio Adnoddau'n Effeithlon yn y Diwydiant Adeiladu