Cymru yn Ailgylchu: Asedau ymgyrch Hydref 2023 Bydd Wych. Ailgylcha.

‘Bydd wych. Ailgylcha.’ yw ymgyrch ailgylchu mwyaf a mwyaf uchelgeisiol Cymru. 

Mae’n cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 a rhoi hwb i Gymru tuag at gyrraedd y nod fod yn genedl ailgylchu orau’r byd.

Mae Cymru’n arwain y gad gydag ailgylchu. Mae 95% o ddinasyddion Cymru’n defnyddio’r gwasanaethau casglu a ddarperir gan eu cyngor, gan wneud Cymru yn genedl ailgylchu orau’r Deyrnas Unedig a’r drydedd orau yn y byd.

Ond mae’r ffigur hwnnw’n disgyn i 78% ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd, gan nad yw’r rhan fwyaf o ddinasyddion yn ailgylchu cymaint ag y gallant. 

Mae chwarter o’r hyn sy’n cael ei roi yn y bin ‘sbwriel’ ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu yn wastraff bwyd. Mae hynny’n swm enfawr – 110,000 o dunelli bob blwyddyn – sy’n ddigon i lenwi 3,300 o fysus deulawr! Yn syfrdanol, gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf o hyn.

Rydym am fod yn genedl nad yw fyth yn taflu gwastraff bwyd i’r bin sbwriel, ble caiff bwyd bwytadwy ei ddefnyddio, ac mae bwyd anfwytadwy’n mynd i’r cadi gwastraff bwyd bob amser, i gael ei ailgylchu a’i droi yn ynni glanach, gwyrddach i Gymru.

Nod yr ymgyrch hwn yw ysbrydoli pobl i ddefnyddio bwyd sydd ar fin mynd yn hen, ac ailgylchu eu holl wastraff bwyd anfwytadwy.

Ymunwch â’n Hymgyrch Gwych i gael Cymru i safle rhif un a chreu newid cadarnhaol yn y byd o’n cwmpas.

Isod, gallwch lawrlwytho’r Pecyn Adnoddau Partneriaid a’r holl asedau ac adnoddau dwyieithog, sydd wedi’u cynllunio i weithio ar draws sawl sianel a fformat, ynghyd â chanllawiau ar sut i’w defnyddio.

Dyddiad yr ymgyrch: Dydd Llun 16 i ddydd Sul 29 Hydref 2023.

Mae embargo ar asedau’r ymgyrch tan ddydd Llun 16 Hydref 2023.

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf

3 Hydref 2023

File formats

pdf, xlsx, zip, docx

Ardaloedd

Cymru

Deunyddiau

Gwastraff bwyd

Math

Logos brand Templedi Pecyn cymorth Fideos ac animeiddiadau Gwe a chyfryngau cymdeithasol

Ymgyrchoedd

Cymru yn Ailgylchu Be Mighty. Recycle.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

01. Pecyn Adnoddau Partneriaid

02. Calendr cyfryngau cymdeithasol yr ymgyrch

03. Fideos a chlipiau llysgennad

04. a 05. Asedau parod wedi’u hanimeiddio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

  • 04. Asedau parod wedi’u hanimeiddio – postiadau Facebook, Instagram, TikTok ac X

    ZIP, 96.98 MB

    Log in to download
  • 05. Asedau parod wedi’u hanimeiddio – straeon ar Facebook, Instagram, TikTok a Snapchat

    ZIP, 103.96 MB

    Log in to download

06. a 07. Asedau llonydd parod ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

08. a 09. Asedau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol y gellir eu teilwra

  • 08. Asedau llonydd y gellir eu teilwra – Facebook ac Instagram

    ZIP, 278.62 MB

    Log in to download
  • 09. Asedau llonydd y gellir eu teilwra – X a sgriniau digidol

    ZIP, 322.15 MB

    Log in to download

10. Templedi erthyglau y gellir eu teilwra

11. Posteri

12. Templedi arlunwaith lifrai cerbydau