Cymru'n Ailgylchu: Bydd Wych. Ailgylcha. Asedau'r Ymgyrch Chwefror 2024

‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ yw ymgyrch ailgylchu mwyaf a mwyaf uchelgeisiol Cymru, yn cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 a rhoi hwb i Gymru tuag at fod yn genedl ailgylchu orau’r byd. 

Gyda gwastraff bwyd y gallwn gyflawni’r effaith fwyaf. 

Er bod Cymru yn un o genhedloedd ailgylchu gorau’r byd, gwastraff bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog o hyd – sy’n cyfateb i lenwi 3,300 o fysiau deulawr bob blwyddyn. Yn syfrdanol, gellid bod wedi bwyta 80% o’r bwyd hwnnw, ac mae hyn yn costio £49 y mis i aelwyd gyfartalog. 

Bydd ‘Ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha: Rownd 3” yn addysgu ac yn grymuso pobl Cymru i arbed arian drwy wneud i’w bwyd fynd ymhellach, gan helpu i greu ynni adnewyddadwy drwy ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta. 

Ymunwch â’n Hymgyrch Gwych drwy hyrwyddo’r ymgyrch!

  1. Lawrlwythwch ein pecyn adnoddau partneriaid i ddarganfod sut gallwch chi gymryd rhan.
  2. Dewiswch yr adnoddau ar gyfer cynulleidfaoedd allanol a staff sy’n gweithio orau i’ch sianeli chi.
  3. Helpwch i wneud Cymru yn genedl wychach fyth. 

Cyfnod yr ymgyrch: Dydd Llun 26 Chwefror i ddydd Sul 24 Mawrth 2024. 

Mae embargo ar asedau’r ymgyrch tan ddydd Llun 26 Chwefror 2024. 

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf

28 Chwefror 2024

File formats

zip, xlsx, mp4, docx, pptx

Deunyddiau

Gwastraff bwyd

Math

Posteri a baneri Templedi Pecyn cymorth Gwaith celf lifrai cerbydau Fideos ac animeiddiadau Gwe a chyfryngau cymdeithasol

Ymgyrchoedd

Cymru yn Ailgylchu Be Mighty. Recycle.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

1. Pecyn Adnoddau Partneriaid yn Cymraeg

2. Calendr cyfryngau cymdeithasol yr ymgyrch

3. Clipiau fideo llysgennad enwog

4. Clip fideo gwastraff bwyd teulu

5. Fideo dylanwadwr - Flamebaster

6. Asedau parod wedi’u hanimeiddio – postiadau Facebook, Instagram, TikTok ac X

7. Asedau parod wedi’u hanimeiddio – straeon a rils ar Facebook, Instagram, TikTok a Snapchat

8. Asedau parod wedi’u hanimeiddio – postiadau Facebook, Instagram, TikTok ac X (asedau Rownd 2)

9. Asedau llonydd parod – Facebook ac Instagram

10. Asedau llonydd parod – X a sgriniau digidol

11. Erthygl y gellir ei theilwra a syniadau ryseitiau

12. Adnoddau ar gyfer y gweithle

13. Posteri

14. Templedi arlunwaith lifrai cerbydau

15. Ysgolion