Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb o gamau sydd â’r nod o feithrin diwylliant cyffredinol o atgyweirio ac ailddefnyddio yng Nghymru erbyn 2050 ar gyfer ymgynghori â rhanddeiliaid. Gan gydnabod yr angen dirfawr am arferion atgyweirio ac ailddefnyddio yn wyneb heriau amgylcheddol ac adnoddau, mae’r ddogfen yn amlinellu camau y gellir eu gweithredu ar draws randdeiliaid a sectorau Cymru.

Crynodeb

Ar hyn o bryd, mae’r arfer o brynu’n newydd, defnyddio am gyfnod byr, a gwaredu, yn eang yng Nghymru, fel y mae yng ngweddill y Deyrnas Unedig a gwledydd cyfoethog eraill y Gorllewin. 

Er bod cynhyrchu nwyddau fel dillad, ffonau ac eitemau i’r cartref ar raddfa enfawr wedi golygu mwy o amrywiaeth, llai o gost a gwell hygyrchedd, mae hefyd wedi arwain at niwed sylweddol i’r amgylchedd. Yn fyd-eang, gellir 45% cysylltu o allyriadau i’r model ‘cymryd-gwneud-defnyddio-gwaredu-ailadrodd’ hwn. 

Mae’r ‘Strategaeth Mwy nag Ailgylchu’ yng Nghymru’n anelu at newid y cyfeiriad hwn drwy symud tuag at “ddiwylliant cyffredinol o ailddefnyddio, atgyweirio ac ailweithgynhyrchu yn ein cymunedau a chanol ein trefi”. Mae rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2026 yn ymrwymo i ddatblygu “80 o ganolfannau ailgylchu cymunedol mewn canol trefi” a “hyrwyddo cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio i annog siopa diwastraff.”

Fel rhan o’r prosiect atgyweirio ac ailddefnyddio ehangach hwn, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru WRAP i gynnal ymchwil a llunio set o gamau y mae eu hangen i symud tuag at ddiwylliant cyffredinol o atgyweirio ac ailgylchu. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r camau gweithredu uniongyrchol y mae eu hangen ar gyfer meithrin diwylliant o atgyweirio ac ailddefnyddio yng Nghymru, gan bwysleisio’r angen am ymwneud a chyfrifoldeb rhyngwladol y tu hwnt i’r llywodraeth.

Bwriedir i’r adroddiad hwn ffurfio Map Trywydd ar gyfer gweledigaeth Cymru ond mae angen mwy o ymgynghori â rhanddeiliaid arno.

Y Llwybr o’n Blaenau

Mae’r adroddiad yn amlinellu saith prif gategori ar gyfer camau gweithredu. Mae’r categorïau’n cynnwys cyfanswm o 17 grŵp gweithredu.

  1. Sefydlu ar gyfer llwyddiant. Mae’r rhain yn gamau sylfaenol pwysig, sy’n croesi categorïau, ac yn gallu helpu hwyluso eraill.
  2. Codi ymwybyddiaeth a chyfleu’r manteision. Mae cynyddu galluedd a symbyliad pobl i atgyweirio ac ailddefnyddio nwyddau’n dibynnu ar ymwybyddiaeth a chyfathrebu effeithiol o’r manteision sy’n perthyn i gymryd y camau hyn.
  3. Arweinyddiaeth y sector cyhoeddus. Gall Cymru fanteisio ar ei bwerau datganoledig, gan ddangos cynnydd ar lefel is-genedlaethol a galw am y newid gofynnol mewn polisïau yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
  4. Cynyddu cwmpas a hygyrchedd. Er mwyn cymryd rhan mewn arferion atgyweirio ac ailddefnyddio, mae angen i ddinasyddion a rhanddeiliaid allu cael gafael ar y gwasanaethau, gwybodaeth ac adnoddau angenrheidiol.
  5. Partneriaethau ar gyfer cydweithio. Bydd meithrin ymddiried rhwng busnesau, sefydliadau’r sector cyhoeddus a sefydliadau eraill yn y sector atgyweirio ac ailddefnyddio’n hybu cyfleoedd ar gyfer ffyniant o ganlyniad i gydweithio.
  6. Atgyweirio ac ailddefnyddio fel sbardun i fusnes cylchol. Bydd symud oddi wrth werthu nwyddau i’r darparu fel gwasanaeth neu wasanaethau i ymestyn hyd oes y nwyddau hynny’n ei gwneud yn haws i’w cwsmeriaid ddewis atgyweirio ac ailddefnyddio.
  7. Dysgu gydol oes ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio. Bydd uwchsgilio parhaus mewn addysg ffurfiol a llwybrau gyrfaoedd yn sicrhau bod effeithiolrwydd sgiliau atgyweirio ac ailddefnyddio’n cael eu cynnal mewn tirlun sy’n esblygu’n gyflym iawn.

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailddefnyddio yng Nghymru

    PDF, 722.4 KB

    Download

Tags