Rhaglen Newid Gydweithredol (CCP)

Mae Rhaglen Newid Gydweithredol (CCP) ar gyfer Cymru gan WRAP Cymru yn cynnig cymorth strategol, technegol a chyfathrebu i helpu awdurdodau lleol (ALlau) i ddatblygu a chyflawni cynlluniau manwl i gyflawni deilliannau strategaeth wastraff genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Mwy nag ailgylchu'.

Y mathau o gymorth a gynhigiwn

Gall awdurdodau lleol wneud cais am amrywiaeth o gymorth strategol, technegol a chyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys:

Cymorth newid gwasanaeth ar gyfer awdurdodau lleol

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol sy’n dymuno newid eu gwasanaethau yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn cytuno rhaglen waith wedi’i theilwra gyda phob awdurdod lleol ar gyfer y newidiadau arfaethedig.

Y Glasbrint Casgliadau yw’r proffil gwasanaeth a argymhellir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff o gartrefi. Mae’n cynnig system a fydd, o gael ei mabwysiadu ar draws Gymru gyfan, yn arwain at gyfraddau uchel o ailgylchu o ansawdd dda, arbedion cost sylweddol a gwell canlyniadau datblygu cynaliadwy.

Cymorth marchnata ar gyfer awdurdodau lleol

Amcan y gefnogaeth a gynhigiwn yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn manteisio i’r eithaf ar y deunyddiau maen nhw’n eu casglu i’w hailgylchu. Darparwn gymorth i awdurdodau lleol farchnata eu deunyddiau, gan sicrhau eu bod yn cael pris da ac yn eglur ar gyrchfannau terfynol ac adroddiadau gwrthod gan gyfleusterau prosesu.

Pan fo’n briodol, rhoddwn gyngor ar gronni symiau deunyddiau er mwyn gallu negodi’n well gydag ailbroseswyr a gwneud economi gylchol yn fwy posibl drwy reoli’r deunyddiau a gesglir.

Modelu a chynllunio busnes ar gyfer awdurdodau lleol

Mae’r cymorth a gynhigiwn yn cynnwys modelu opsiynau casgliadau ailgylchu a datblygu ar waith a gwblhawyd eisoes gydag awdurdod lleol i baratoi achos busnes dros ddarparu’r gwasanaeth. Rydym yn diweddaru’r modelau a ddefnyddiwn a’n dull o weithio yn gyson gan ystyried tystiolaeth newydd.

Cymorth gyda Gorsafoedd Trosglwyddo Gwastraff awdurdodau lleol / cymorth gyda Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Rydym yn darparu cefnogaeth i awdurdodau lleol i sicrhau bod eu cyfleusterau’n cael eu rhedeg yn effeithiol. Gall hyn gynnwys cynnal adolygiadau effeithlonrwydd gweithredu, darparu cymorth trwyddedu a chynllunio, helpu gyda dylunio a lleoli cyfleusterau newydd neu wedi’u hailddatblygu, neu adolygu darpariaeth a rheolaeth bresennol safleoedd, naill ai fel gwasanaeth ar ei ben ei hun neu fel rhan o sefyllfa newid gwasanaeth. 

Cymorth wedi’i dargedu ar gyfer awdurdodau lleol

Darparwn gymorth arall wedi’i dargedu ar gyfer gweithgaredd sydd y tu hwnt i gwmpas y cymorth gweithredol i awdurdodau lleol a amlinellir uchod.

Cyngor cyffredinol i awdurdodau lleol

Mae ein cyngor yn cwmpasu’r arfer gorau a phynciau presennol mewn meysydd sy’n codi i’r amlwg, megis gwybodaeth sy’n gysylltiedig â chanfyddiadau ymchwil newydd, ac fe’i darparwn mewn amrywiaeth o fformatau, fel seminarau, canllawiau, mynychu digwyddiadau neu gyfarfodydd, neu mewn cyd-destun unigol.

Gweithgareddau ymchwil a datblygu

Rydym yn cynnal nifer fach o brosiectau sy’n gysylltiedig â datblygiad gwybodaeth ynghylch gwasanaethau ailgylchu yng Nghymru. Gall y gweithgareddau hyn gynnwys treialon cyflwyno deunyddiau ychwanegol i gasgliadau ailgylchu, fel haenen blastig neu Nwyddau Hylendid Amsugnol, a datblygiad pellach seilwaith gwasanaethau sy’n esblygu, fel cerbydau trydan  a mathau newydd o gynwysyddion.

Cymorth gydag ymgyrchoedd newid ymddygiad ailgylchu a chyfathrebu wrth newid gwasanaeth

Fel rhan o 'Recycle Now', mae ein hymgyrch Cymru yn Ailgylchu’n defnyddio negeseuon wedi’u seilio ar dystiolaeth ac ymyraethau newid ymddygiad i annog dinasyddion i ailgylchu mwy, gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ynghyd â phartneriaid eraill.

Ym mis Medi 2020, fe wnaethom lansio ymgyrch ailgylchu cenedlaethol cyntaf Cymru, sy’n defnyddio negeseuon normio cymdeithasol a darluniau creadigol i annog holl ddinasyddion Cymru i ailgylchu popeth y gallan nhw o’u cartrefi. Fe wnaethom ymgynghori â phob awdurdod lleol i greu Pecyn Adnoddau ar gyfer yr ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha., sy’n darparu asedau cyfathrebu y gellir eu golygu yn ogystal â rhai parod i’w defnyddio i’w galluogi i roi eu blas lleol eu hunain ar yr ymgyrch cenedlaethol ehangach, i gael Cymru i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu. Ers hynny, rydym wedi datblygu nifer o “gyfnodau” o’r ymgyrch, gan ymgynghori fel mater o drefn, hysbysu a rhoi adborth i awdurdodau lleol cyn ac ar ôl pob un.

Uchafbwyntiau’r cymorth a ddarparwyd gan WRAP Cymru’n ddiweddar

  • Yn 2022/23, cefnogodd WRAP Cymru dri awdurdod lleol yn eu newid i wasanaethau ailgylchu didoli wrth ymyl y ffordd yn unol â’r Glasbrint Casgliadau a gwnaethom fodelu newidiadau i wasanaethau gyda phum awdurdod lleol arall.
  • Gan weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol yng Nghymru, fe wnaethom gynnydd pellach tuag at gyrraedd ailgylchu 70% erbyn 2025, gyda bron i bob awdurdod lleol yn cyflawni o leiaf 64%.
     

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth, neu i wneud cais am gymorth, gallwch anfon ebost:

Os rydych chi’n gweithio i awdurdod lleol yng Nghymru ac yr hoffech gofrestru i dderbyn ebostiau am gymorth strategol, technegol a chyfathrebu WRAP Cymru ar gyfer gwasanaethau gwastraff ailgylchu awdurdodau lleol yng Nghymru, anfonwch ebost at CymruYnAilgylchu@wrap.org.uk, os gwelwch yn dda.

Adroddiadau, gwefannau, astudiaethau achos a dogfennau defnyddiol