Creu newid cynaliadwy mewn ymddygiad
Dechreuodd gwaith WRAP o greu newid cynaliadwy mewn ymddygiad yn ôl yn 2000, pan lansiwyd ein brand Ailgylchu Nawr/Recycle Now ar gyfer ddinasyddion.
Ers hynny, mae ein dull o weithio wedi datblygu ac addasu, ond mae’n seiliedig ar waith ymchwil a gwerthuso cadarn o hyd. Rydym wedi meithrin y galluoedd sydd gennym fel sefydliad, ac rydym yn cydweithio’n strategol gyda phartneriaid ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt, yn cyfuno ein sgiliau er mwyn llwybro tuag at newid ymddygiad hirdymor.
Sut mae WRAP yn creu newid cynaliadwy mewn ymddygiad?
Rydym yn targedu segmentau o gynulleidfaoedd, ymddygiadau, a meysydd y gallwn gael yr effaith fwyaf arnynt. Trwy ddeall ein cynulleidfa darged, a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, rydym yn mynd ati i brofi, dysgu, ac addasu. Os na fydd rhywbeth yn mynd fel y disgwyliwyd, rydym yn darganfod pam, ac yna’n ei newid.
Ein nod yw cael pobl i ddeall pam mae angen iddyn nhw newid rhywbeth ac yna eu helpu i roi’r newid ar waith a chynnal arferion newydd.
Cynllunio ymyraethau newid ymddygiad
Mae gan WRAP dîm o arbenigwyr hynod alluog, gyda phrofiad o gynllunio, darparu a mesur atebion ac ymyraethau newid ymddygiad effeithiol. Mae’r cwbl wedi’i seilio ar ddirnadaethau trwyadl a manwl, ac fe ddefnyddiwn ein dealltwriaeth o’r ‘broblem’ i ddatblygu atebion syml ac ymarferol sy’n sbarduno camau gweithredu y gellir eu mesur.
Cynnal ymgyrchoedd ar gyfer dinasyddion
Mae ymgyrchoedd WRAP ar gyfer dinasyddion yn grymuso unigolion i weithredu, drwy rannu negeseuon i ysbrydoli ynghyd â chyngor ymarferol. Rydym wedi cofleidio grym y cyfryngau cymdeithasol a defnyddiwn sianeli sy’n fwyaf tebygol o daro deuddeg ymysg cynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd, gan fesur a monitro’r traffig yn rheolaidd.
Mae ein portffolio o frandiau ac ymgyrchoedd yn cynnwys: Cymru yn Ailgylchu, Hoffi Bwyd Casau Gwastraff.
Cymru yn Ailgylchu
Fel rhan o’r brand Recycle Now, Cymru yn Ailgylchu yw’r ymgyrch ailgylchu cenedlaethol.
Ariennir a chefnogir yr ymgyrch gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi cael ei fabwysiadu gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ledled Cymru, a’i nod yw annog dinasyddion i ailgylchu mwy o bethau’n fwy aml o bob rhan o’u cartref.
Mae’n destun balchder mai gan Gymru mae’r gyfradd ailgylchu uchaf yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, a’r drydedd uchaf yn y byd.
Fy Ailgylchu Cymru
Mae Fy Ailgylchu Cymru wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rheoli gan WRAP Cymru. Mae gwefan My Recycling Wales yn caniatáu ichi edrych trwy awdurdodau lleol Cymru a gweld beth sy'n digwydd i ailgylchu a gesglir gan awdurdodau lleol, yn y Deyrnas Unedig a hyd yn oed dros y byd.
Mae'n cyflwyno data cyfoes ar:
- Y gyfradd ailgylchu yng Nghymru yn ogystal ag ar gyfer pob awdurdod lleol unigol, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
- Y gwasanaethau ailgylchu a ddarperir gan bob awdurdod lleol.
- Cyrchfan ailgylchu a gasglwyd ar gyfer amrywiaeth o ddeunyddiau penodol, megis papur, metelau, plastig a gwydr, ar gyfer Cymru yn ogystal ag ar gyfer pob awdurdod lleol unigol.
- Swm a math y deunyddiau ailgylchu penodol a gesglir yng Nghymru.