Helpu i roi polisïau ar waith
Mae WRAP yn gweithio gyda llywodraethau ym mhedwar ban byd i siapio penderfyniadau polisi y gellir eu datblygu i fod yn gamau gweithredu sy’n atal gwastraff.
Gellir rhoi pwysau aruthrol ar lywodraethau i fynd i’r afael â materion fel gwastraff bwyd neu lygriad plastig a gyda deddfwriaeth ar newid hinsawdd yn cael ei gyflwyno, yr amgylchedd sy’n cael y sylw blaenaf gan y cyhoedd.
Gelwir ar arbenigwyr technegol WRAP yn rheolaidd i roi cyngor a chymorth i lywodraethau cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig a thramor. Gall y gwaith gynnwys cymorth modelu cost, economaidd a thechnegol. Rydym mewn sefyllfa unigryw i weithio gydag adrannau llywodraethau i gynnig atebion sy’n gweithio ar draws sectorau’r diwydiant ac sy’n gallu dod â’r bobl allweddol ynghyd o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi.
Yng Nghymru, mae WRAP Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei dargedau amgylcheddol. Er enghraifft, sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 a chenedl ddiwastraff erbyn 2050.
I ddysgu mwy am waith WRAP gyda llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gallwch ymweld â www.wrap.org.uk/sectors/national-government-departments