Cynhyrchwyr

Mae Rhaglen Datblygu Marchnad WRAP Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn bodoli i gynyddu’r cyflenwad o nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch yng Nghymru a’r galw amdanynt. Mae hyn yn hanfodol er mwyn gwireddu economi gylchol.

Er mwyn cynyddu’r cyflenwad o nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch, rydym yn arddel dull deublyg, sef prosiectau arddangos, a darparu’r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5miliwn – rhaglen grantiau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sefydliadau yng Nghymru.

(I ddysgu sut rydym yn cynyddu’r galw am nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch, gweler ein tudalen Cefnogaeth Caffael i’r Sector Cyhoeddus.)

Prosiectau o fewn y gadwyn gyflenwi

Rydym yn cydweithio â mwy nag 20 o sefydliadau partner i gyflawni pedwar prosiect arddangos o fewn y gadwyn gyflenwi. Bydd y rhain yn dangos sut gellir goresgyn rhwystrau i gynyddu’r defnydd o ddeunydd eilgylch – yn enwedig plastig – mewn gweithgynhyrchu yng Nghymru. Bwriadwn fynd i’r afael â materion masnachol a thechnegol a phwysleisio dichonoldeb economaidd a buddion amgylcheddol ar yr un pryd.

Amcangyfrifir fod deunydd pacio a gynhyrchir yng Nghymru yn cynnwys mwy na 30% deunydd eilgylch ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae hyn yn gostwng i 10–14% ymhlith yr holl nwyddau plastig eraill (nad ydynt yn ddeunydd pacio) a gynhyrchir yng Nghymru. Un o’n hamcanion allweddol, felly, yw darparu tystiolaeth i’r sector a fydd yn rhoi hwb i’w hyder a’u gallu i ddefnyddio deunyddiau eilgylch yn eu nwyddau.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Prosiectau o Fewn y Gadwyn Gyflenwi, os gwelwch yn dda.

Y Gronfa Economi Gylchol

Rydym hefyd yn darparu’r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5miliwn ar ran Llywodraeth Cymru. Ei phwrpas yw rhoi cymorth i gynhyrchwyr yng Nghymru sy’n chwilio arian ar gyfer buddsoddiad cyfalaf i gynyddu eu defnydd o ddeunyddiau eilgylch. Yn yr un modd â’n prosiectau arddangos, plastig eilgylch yw’r deunydd sy’n cael blaenoriaeth, fodd bynnag gallai busnesau sy’n defnyddio papur, cerdyn neu decstilau eilgylch hefyd fod yn gymwys.

Mewn ymateb i COVID-19, mae cwmpas y Gronfa Economi Gylchol wedi cael ei ehangu i gynorthwyo gweithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgynhyrchu yng Nghymru, sy’n ymestyn hyd oes ddefnyddiol nwyddau. 

Caiff sefydliadau o unrhyw faint wneud cais naill ai am grant ‘ar Raddfa Fach’ neu grant ‘ar Raddfa Fawr’.

Ceir manylion llawn ar ein tudalen Cronfa Economi Gylchol.

Map Deunyddiau Gylchol Cymru

Yn ogystal â’r gwaith a enwyd eisoes y mae WRAP Cymru’n ei wneud i gynyddu’r cyflenwad o nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch, rydym wedi datblygu Map Deunyddiau Gylchol Cymru er mwyn cefnogi mwy o gydweithio ar draws y sector plastigion a phapur yng Nghymru.

Mae’r map ar gael am ddim ac mae’n hawdd i’w ddefnyddio. Mae’n cynnig darlun rhyngweithiol, gweledol o raddfa’r sector, yn plotio lleoliadau busnesau ac ailbroseswyr yn ôl eu lleoliad, ac yn helpu i ddangos lleoliadau clystyrau. Gall defnyddwyr chwilio yn ôl math y cwmni, yr awdurdod lleol, neu yn ôl enw’r cwmni. Caiff defnyddwyr hefyd chwilio’r tunelleddau a’r math o ddeunydd a gaiff ei drin ar bob safle ynghyd â’r math o drwydded.

I ddefnyddio’r adnodd, ewch i’n tudalen Map Deunyddiau Gylchol Cymru.

Yn ôl i’r sectorau y mae WRAP Cymru yn gweithio gyda nhw