Recycled building material

Datblygu’r Farchnad

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae WRAP Cymru’n cynnig cymorth technegol ac yn cynnal treialon cadwyn gyflenwi i sbarduno’r economi gylchol.

Nod y prosiectau hyn yw cynyddu’r gwaith o gynhyrchu nwyddau neu gydrannau sydd wedi’u hailgynhyrchu, eu hailwampio neu wedi’u gwneud o ddeunyddiau eilgylch, a chadw nwyddau a deunyddiau’n ddefnyddiol cyhyd â phosibl.

Drwy’r prosiectau hyn, ein nod yw mynd i’r afael â heriau masnachol a thechnegol ill dau – fel defnyddio deunyddiau eilgylch mewn nwyddau sydd angen bod yn wydn yn wyneb traul – gan amlygu eu dichonolrwydd economaidd a’u buddion amgylcheddol.

Manteisiwch ar ein cymorth i roi nodweddion perfformiad ffrydiau deunyddiau eilaidd ar brawf. Cysylltwch â: Resources.Wales@wrap.org.uk