people working at wrap

Gyrfa

Rydym ni yn WRAP eisiau newid y byd. Ein harbenigedd yw gwneud y byd yn lle glanach, mwy hirhoedlog – ein cenhadaeth yw creu byd ble caiff adnoddau oll eu defnyddio’n gynaliadwy.

I wireddu hyn, rydym yn gweithio gyda busnesau, llywodraethau, defnyddwyr a phobl fel chi ar brosiectau uchelgeisiol ledled y byd.

Ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae arnom angen unigolion angerddol i’n helpu i herio’r byd. Mae pawb yma yn chwarae eu rhan; ein pobl yw ein hased fwyaf gwerthfawr.

Mae gennym uchelgeisiau mawr, ac rydym yn chwilio am bobl yr un mor uchelgeisiol a brwdfrydig i ymuno â ni. Croesawn geisiadau gan bawb, beth bynnag fo’u hethnigrwydd, ffydd, rhywedd, anabledd a niwroamrywiaeth ac fe wnawn bob amser ystyried yr achos dros weithio’n hyblyg.

Beth am fwrw golwg isod ar y swyddi gwag sydd gennym ar hyn o bryd a bod yn rhan o rywbeth arbennig?

Os hoffech wneud cais am un o’n swyddi gwag, gallwch naill ai ymgeisio ar-lein drwy ddilyn y ddolen berthnasol ar fersiwn Saesneg y dudalen hon, neu os hoffech ymgeisio drwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â jobs@wrap.org.uk am fwy o fanylion.

Investors in Diversity July 2025 logo
Disability Confident Leader badge
Purple badge indicating status of being in the top 100 most inclusive workplaces