Gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru
Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i wneud sector cyhoeddus Cymru yn garbon niwtral erbyn 2030.
Mae WRAP Cymru yn cyfrannu at hyn trwy roi cymorth i awdurdodau lleol Cymru i fabwysiadau’r gwasanaethau ailgylchu mwyaf effeithlon a chost-effeithiol drwy’r Rhaglen Newid Gydweithredol, a thrwy helpu sector cyhoeddus ehangach Cymru i gaffael yn fwy cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethu cynnwys eilgylch, wedi’i ailddefnyddio a’i ailgynhyrchu yn y nwyddau a brynir, yn unol â strategaeth 'Mwy nag ailgylchu' Llywodraeth Cymru.

Y Rhaglen Newid Gydweithredol
Dysgwch sut mae’r Rhaglen Newid Gydweithredol yn helpu awdurdodau lleol Cymru i arbed arian, cyrraedd targedau ailgylchu a chyflawni deilliannau strategaeth gwastraff Cymru, 'Mwy nag ailgylchu'.

Caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus
Dysgwch sut mae WRAP Cymru yn helpu cyrff cyhoeddus Cymru i ymwreiddio caffael cynaliadwy, cyrraedd targedau datgarboneiddio a chyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015