Nid ydym yn derbyn ceisiadau am grantiau ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru a WRAP Cymru’n ymwybodol bod nifer o sefydliadau’n wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i COVID-19. Fel ymateb i hyn, rydym wedi cefnogi seflydiadau trwy'r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5miliwn.
Yn ogystal ag ariannu’r defnydd o ddeunyddiau eilgylch mewn nwyddau, roedd WRAP Cymru yn gallu cefnogi gweithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchu nwyddau cynaliadwy i gynorthwyo yn y frwydr fyd-eang yn erbyn coronafeirws.
Mae cynhyrchu nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch ac ymestyn hyd oes ddefnyddiol nwyddau yn ganolog i wireddu economi gylchol. Mae’r Gronfa Economi Gylchol wedi helpu i sbarduno Cymru i symud tuag at hyn, gan hwyluso twf busnes a chreu swyddi newydd. Ei bwrpas yw galluogi buddsoddiad cyfalaf er mwyn cadw adnoddau’n ddefnyddiol cyhyd â phosibl, yn hytrach na’u llosgi neu eu hanfon i dirlenwi, ac i yrru’r galw am ddeunyddiau eilaidd.
Roedd yn rhaid i dderbynwyr brosiectau y gronfa:
- gynyddu’r defnydd o blastig, papur / cerdyn neu decstilau eilgylch mewn nwyddau presennol neu rai newydd; neu
- ymestyn hyd oes nwyddau / deunyddiau trwy weithgareddau i’w paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio neu ailgynhyrchu, yn canolbwyntio’n arbennig ar ddodrefn (meddal a chaled), cyfarpar trydanol, a dillad, tecstilau ac esgidiau (caiff prosiectau sydd eisiau defnyddio deunyddiau eraill eu hystyried fesul achos unigol)
Gallwch ddysgu am y Gronfa Economi Gylchol drwy wylio’r recordiad o’n gweminar ddiweddar, sydd i’w weld ar YouTube.

Cyfleoedd grantiau a buddsoddiad pellach
Ynghyd â’r Gronfa Economi Gylchol – a ddarperir gan WRAP Cymru yn arbennig ar gyfer sefydliadau yng Nghymru – mae WRAP yn rheoli grantiau, benthyciadau a buddsoddiadau ar gyfer sefydliadau cymwys ar draws gweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Ewch draw i’r wefan am fwy o wybodaeth: www.wrap.org.uk/what-we-do/our-services/grants-and-investments (Saesneg yn unig).
Astudiaethau achos
-
Astudiaeth Achos
Y Gronfa Economi Gylchol: Astudiaeth Achos Gweithdy Beiciau Caerdydd
10 Tachwedd 2021