Yn 2022 Comisiynodd WRAP Cymru dri threial cadwyn gyflenwi arloesol gyda busnesau yng Nghymru i gynyddu’r defnydd o ddeunydd wedi’i ailgylchu mewn nwyddau a sicrhau y gallai’r nwyddau hyn gael eu hailgylchu.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, bu WRAP Cymru a nifer o bartneriaid prosiectau cadwyn gyflenwi yn cydweithio i hybu hyder y farchnad mewn defnyddio deunyddiau eilgylch ôl-ddefnyddwyr mewn nwyddau sydd eisoes ar y farchnad ac arddangos y buddion economaidd ac amgylcheddol cysylltiedig.
Dangosodd y treialon cadwyn gyflenwi sut y gall gweithgynhyrchwyr oresgyn heriau i gynyddu’r defnydd o ddeunyddiau eilgylch mewn nwyddau a gaiff eu cynhyrchu yng Nghymru, gan leihau dibyniaeth ar ddeunyddiau crai. Penododd WRAP Cymru bartner arweiniol ar gyfer pob treial a gweithio gyda’r partneriaid hyn a’u cadwyni cyflenwi i oresgyn y rhwystrau o ddefnyddio deunyddiau mwy cynaliadwy i leihau ôl troed carbon nwyddau yng Nghymru.
Roedd ein partneriaid arweiniol yn cynnwys:

Nextek
Ymgynghoriaeth sy'n darparu atebion i heriau ailgylchu plastigion. Nhw arweiniodd y treial ar sut y gellid defnyddio deunyddiau plastig gwastraff heb unrhyw farchnad derfynol mewn nwyddau adeiladu perfformiad uchel.

Resilience Sustainable Solutions
Gan weithio gyda WRAP Cymru ar ail brosiect, mae’r ymgynghoriaeth hon sydd wedi’i lleoli yng Nghymru yn helpu sefydliadau i ddatblygu a gwreiddio atebion cynaliadwyedd. Fel rhan o'r treial hwn, buont yn ymchwilio i ddichonoldeb casglu bagiau gwastraff agregau a'u troi'n becynnau newydd ar gyfer deunyddiau tywod a graean. Nod y treial oedd sefydlu model ailgylchu dolen gaeedig ar gyfer bagiau agregau gwastraff.

BIC Innovation
Ymgynghoriaeth yng Nghymru sy'n arbenigo mewn arloesi a thwf a bu’n gweithio gyda WRAP Cymru ar ystyried tri math gwahanol o weithgynhyrchu – chwyth-fowldio, mowldio allwthio a mowldio chwistrell. Datblygwyd yr ateb a oedd yn debygol o sicrhau'r manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mwyaf ar gyfer parodrwydd i’r farchnad.
Archwiliwch fwy
Mae gwaith WRAP Cymru i gefnogi busnesau yng Nghymru yn cael effaith fyd-eang. Datblygodd treial blaenorol gyda Vernacare gynwysyddion offer miniog wedi'u gwneud o hyd at 100% cynnwys eilgylch sydd bellach yn cael eu defnyddio gan y GIG a chyfleusterau gofal iechyd ledled y byd.