Cyfraith ailgylchu yn y gweithle

O 6 Ebrill, bydd cyfraith newydd yn ei gwneud yn ofynnol i holl weithleoedd, yn cynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector wahanu’r deunyddiau ailgylchadwy oddi wrth eu gwastraff cyffredinol cyn bo hir.

Mae’r wefan Y Busnes o Ailgylchu Canllawiau ar gyfer holl weithleoedd yn rhoi canllawiau sector benodol i’ch helpu i wella eich casgliad gwastraff presennol a sicrhau bod eich gweithle’n cydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau newydd.  

Mae’n orfodol i weithleoedd drefnu casgliad ar wahân ar gyfer y deunyddiau hyn, er mwyn iddynt gael eu hailgylchu’n effeithlon.

  • Bwyd dros ben neu wastraff a gafodd ei greu drwy baratoi bwyd
  • Papur a cherdyn fel hen bapurau newydd ac amlenni, blychau dosbarthu a phecynnu
  • Metel, plastig, a chartonau a deunyddiau pacio eraill tebyg (er enghraifft, cwpanau coffi)
  • Gwydr fel poteli diodydd a jariau bwyd
  • Tecstilau heb eu gwerthu fel dillad a nad ydynt yn ddillad
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE).

Ewch i wefan Y Busnes o Ailgylchu Cymru am ragor o ganllawiau ac amrywiaeth o adnoddau cyfathrebu i helpu'ch gweithle i baratoi ar gyfer y gyfraith newydd.

Archwiliwch fwy