Ailgylchu yn y Gweithle: delweddau ar gyfer arwyddion a chynwysyddion ailgylchu

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Mae'r gyfraith newydd hefyd yn gymwys i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy'n rheoli gwastraff gweithleoedd sy'n debyg i wastraff cartrefi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith hon i wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff a chynyddu'r gwaith hwn.

Isod, gallwch lawrlwytho’r holl eiconau ffrwd deunydd dwyieithog y gallai fod eu hangen arnoch i greu sticeri ar gyfer eich cynwysyddion ailgylchu a gwastraff na ellir eu hailgylchu (bagiau, biniau, bocsys neu gadis), ac i’w defnyddio ar arwyddion, i’ch helpu i roi gwybod i’ch cwsmeriaid am beth sy’n mynd ble.

Bydd angen i chi ‘gofrestru’ y tro cyntaf i chi lawrlwytho ased o’r wefan hon. Mae'n gyflym ac yn hawdd. Yn syml, cliciwch ar y ddolen yng nghornel dde uchaf y dudalen we hon a rhowch ychydig o fanylion allweddol.

Sut i ddefnyddio'r asedau

Os ydych am ddefnyddio’r eiconau fel y maent yn ymddangos, yna nid oes angen ichi gael cymeradwyaeth gennym. Os hoffech anfon eich celfwaith i ni am adborth, anfonwch ebost atom i CymruYnAilgylchu@wrap.org.uk.

Mae’n bwysig bod unrhyw destun sy’n cyd-fynd ag eicon yn glir ac wedi’i labelu’n gywir i’ch amgylchiadau a’r cymhwysiad terfynol. Os hoffech newid y geiriau ar eicon, anfonwch eich addasiad awgrymedig atom i ni ei ystyried i CymruYnAilgylchu@wrap.org.uk.

Os nad allwch ddod o hyd i eicon addas yn y casgliad presennol, anfonwch ebost atom i CymruYnAilgylchu@wrap.org.uk.

Os dewiswch wahanu'r deunyddiau a gasglwch ymhellach, er enghraifft, i gasglu cerdyn ar wahân i bapur, cliciwch yma i weld y detholiad llawn o eiconau ffrwd deunydd.

Mwy o gefnogaeth

I gael rhagor o gymorth, offer a chanllawiau i'ch helpu i sefydlu cyfleusterau ailgylchu ar wahân yn eich sefydliad, ewch i wefan Y Busnes o Ailgylchu Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, ewch i www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Eiconau ar gyfer y deunyddiau y bydd angen eu gwahanu a'u casglu ar wahân:

Eiconau ar gyfer y metelau, plastigau a chartonau, pe baech yn dewis casglu'r rhain ar wahân (yn lle cyfunol/cymysg):

Eiconau ar gyfer deunyddiau eraill y bydd angen eu gwahanu a'u casglu ar wahân, os ydych yn cynhyrchu'r gwastraff hwn: