Mae WRAP Cymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn darparu cymorth caffael cynaliadwy am ddim i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru ers 2016.
Mae cymorth strategol ar gael i ymwreiddio cynaliadwyedd mewn strategaethau a gweithgareddau caffael. Gall hyn helpu cyrff cyhoeddus Cymru i gyrraedd y Nodau Llesiant a gyflwynir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf LlCD).
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae cymorth strategol ar gael am ddim i sector cyhoeddus Cymru er mwyn:
- cynllunio polisïau a rhoi strategaethau ar waith i gynyddu caffael nwyddau carbon isel a chynaliadwy, sy’n cynnwys nwyddau y gellir eu hailddefnyddio, nwyddau wedi’u hailddefnyddio a’u hailgylchu, a nwyddau wedi’u gwneud o gynnwys eilgylch; a
- sbarduno newid diwylliannol i ymwreiddio caffael cynaliadwy ar draws sefydliadau.
Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario oddeutu £6biliwn bob blwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau. Felly, mae cyfle sylweddol i gyrff cyhoeddus wneud defnydd cadarnhaol o gaffael i gyflawni deilliannau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, fel y’i cyflwynir yn Neddf LlCD.
Mae’r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â Pholisi Caffael a strategaeth Mwy nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys wyth prif weithred uchelgeisiol i gyflymu taith Cymru tuag at economi gylchol. Mae un o’r rhain yn gofyn i sector cyhoeddus Cymru flaenoriaethu defnyddio cynnwys eilgylch, wedi’i ailddefnyddio ac wedi’i ailgynhyrchu yn y nwyddau a brynir.
Mae arddel dull caffael cynaliadwy hefyd yn cyd-fynd â’r cynllun cyflawni ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel’ sy’n cyflwyno ymrwymiad i’r sector cyhoeddus i ddatgarboneiddio erbyn 2030. Bydd hyn yn gofyn am newid sylfaenol yn y ffordd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu caffael. Bydd penderfyniadau a wneir yn awr – yn ogystal â strategaethau caffael yn y tymor hwy – yn dylanwadu ar allu’r sector cyhoeddus i fodloni’r ymrwymiad hwn.
Mewn cydweithrediad ag ymgynghorwyr arbenigol, mae WRAP Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys:
- Gweithdai gyda chyflenwyr a’r rhai sy’n caffael i godi ymwybyddiaeth, archwilio arfer gorau a chanfod atebion i alluogi caffael cynaliadwy;
- Hyfforddiant ar gyfer staff caffael ar egwyddorion ac arfer caffael nwyddau wedi’u hailddefnyddio a nwyddau â chynnwys eilgylch ynddynt;
- Adolygiadau gwariant strategol i ganfod cyfleoedd a llunio strategaethau caffael i gyrchu mwy o nwyddau i’w hailddefnyddio neu nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch gan ddefnyddio dull targedu, mesur, gweithredu;
- Cynorthwyo gyda chynhyrchu manylebau a meini prawf cynaliadwyedd i’w defnyddio mewn ymarferion caffael;
- Cynhyrchu adnoddau rheoli contractau pwrpasol, a hyfforddi cyflenwyr a’r rhai sy’n caffael ar sut i’w defnyddio i alluogi monitro cywir, adrodd ar a rheoli perfformiad cyflenwyr yn erbyn amcanion amgylcheddol penodol;
- Modelu opsiynau i ganfod cyfleoedd a blaenoriaethau strategol (megis dylanwadu ar ffactorau yn cynnwys arbedion costau, arbedion carbon, lleihau deunyddiau, cyflawni’r Nodau Llesiant ayyb).
- Cynhyrchu canllawiau ac astudiaethau achos i gynnig cymorth parhaus.
Mynd ati i ofyn am gymorth strategol i’ch sefydliad sector cyhoeddus
I ofyn am gymorth neu i ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael, rhowch alwad i WRAP Cymru ar 029 20 100 100 a gofyn i siarad gydag un o’n Rheolwyr Cyfrifon Busnes. Fel arall, gallwch anfon ebost yn uniongyrchol at y tîm: Resources.Wales@wrap.org.uk
Fe’ch anogwn hefyd i ddarllen yr astudiaethau achos isod, sy’n cyflwyno esiamplau o achos gorau. Isod hefyd mae dolen i’n canllaw ar gyfer y sector cyhoeddus ar gaffael plastigion.