Mae ein gwaith i greu economi gylchol yn hanfodol er mwyn cyflawni Cymru sero net erbyn 2050. Golyga hyn leihau gwastraff, ailddefnyddio deunyddiau cyhyd â phosibl, a chreu modelau busnes newydd mwy cynaliadwy.  

Gall ein Canllaw Ymgysylltu â’r Farchnad Ar Gaffael Cynaliadwy gefnogi sefydliadau’r sector cyhoeddus i symud oddi wrth y model caffael traddodiadol ‘cymryd-gwneud-gwastraffu’ a chwilio yn hytrach am ffyrdd y gallwn gadw nwyddau’n ddefnyddiol am amser hwy. Bydd ymgysylltu â’r farchnad yn hollbwysig wrth weithio gyda chyflenwyr y sector cyhoeddus i gyflawni sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030. 

Fel prynwr, mae eich gallu chi i ddiffinio a chyrchu nwyddau a gwasanaethau’n llwyddiannus mewn modd cylchol a chynaliadwy yn dibynnu ar eich ymwybyddiaeth a’ch gwybodaeth am y sylfaen cyflenwyr, eu galluedd, eu capasiti a’r technolegau sydd ar gael.  

Yn ogystal â'r prif ganllaw, mae rhagor o fanylion yn ein canllawiau ar gategoriau penodol.

Ymunwch â’n gweminar addysgiadol ar 6eg o Rhagfyr lle byddwn yn rhoi trosolwg o’n canllawiau newydd i brynwyr cyhoeddus ar ymgysylltu â’r farchnad.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Canllaw Ymgysylltu Â’r Farchnad.pdf

    PDF, 908.92 KB

    Lawrlwytho

Tagiau