Datganiadau i’r wasg
- Treialon yng Nghymru’n dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio eitemau ‘anodd eu hailgylchu’ trwy droi ‘gwastraff’ yn nwyddau newydd.
- Cwpanau coffi a phecynnau creision yn cael eu troi’n ddecin, polypropylen eilgylch yn cael ei ddefnyddio i wneud cadis gwastraff bwyd a chynwysyddion meddygol.
- Safonau’r diwydiant yn cael eu diweddaru o ganlyniad i lwyddiant wrth gynnwys plastigion eilgylch mewn cynwysyddion nwyddau miniog.
Gan fod Cymru’n drydedd genedl orau’r byd am ailgylchu ar hyn o bryd, gallwn bwyso ymlaen i gyrraedd y brig trwy ailgylchu cymaint â phosibl dros gyfnod yr Ŵyl. Mae WRAP Cymru a Llywodraeth Cymru’n annog pobl gyda’r neges: ‘Bydd Wych’ a mynd gam ymhellach eto i sicrhau tymor Nadolig gwirioneddol wyrdd eleni.
Mae’n bleser gan WRAP gyhoeddi ei fod wedi ehangu cwmpas Cronfa Economi Gylchol Cymru sy’n werth £6.5 miliwn. Cyflwynwyd y gronfa ym mis Ebrill 2019 i gefnogi cynhyrchwyr yng Nghymru i ddefnyddio deunyddiau eilgylch. Erbyn hyn, gall hefyd gefnogi gweithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgynhyrchu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu nwyddau cynaliadwy i gynorthwyo yn y frwydr fyd-eang yn erbyn coronafeirws, fel cynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol (Personal Protective Equipment/PPE).
Gallai ailddefnyddio eitemau sydd wedi cael eu taflu, yn hytrach na gadael iddynt fynd yn wastraff, arwain at fuddion lu i Gymru, yn ôl cyhoeddiad newydd gan yr elusen gynaliadwyedd, WRAP Cymru.