Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu caffael gwerth £9 miliwn o goed ifanc i’w plannu yng Nghymru. Maent yn awyddus i arddel dull cynaliadwy a helpu i gyflawni nodau polisïau cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel a’r uchelgeisiau a gyflwynir yn y strategaeth Mwy nag Ailgylchu: Strategaeth i wneud economi gylchol Cymru yn realiti.

Gofynnodd CNC am gyngor gan WRAP Cymru - ariennir gan Lywodraeth Cymru – i leihau effaith amgylcheddol y deunydd lapio a chynwysyddion plastig a ddaw am wreiddiau coed. Defnyddir y rhain i atal dysychiad a lleihau straen gwres pan fo planhigion yn cael eu cludo a’u storio.

Gyda chymorth gan Resource Futures, cynhaliodd WRAP Cymru ymchwil y farchnad ar ddeunyddiau pacio a nwyddau gwarchod ac aseswyd opsiynau ar gyfer danfon coed. Wedyn, gwnaed argymelliadau ar gyfer y manylebau tendro a’r meini prawf gwerthuso, i annog cyflenwyr i leihau effaith amgylcheddol eu nwyddau.

Pan roedd y gwaith caffael yn mynd rhagddo, cyfyngedig oedd y nwyddau cynaliadwy a oedd ar gael ar y farchnad. Fodd bynnag, dros gyfnod y contract, efallai y daw mwy o atebion cynaliadwy ar gael. Argymhellwyd dull ‘partneriaeth arloesi’ ac adolygiadau cynnyrch bob tair blynedd, i ganiatáu i’r cyflenwr gyflenwi nwyddau newydd ac i CNC ddefnyddio opsiynau mwy cynaliadwy pan fyddant ar gael.

Ffeithiau Allweddol

  • Caffael gwerth £9 miliwn o goed ar gyfer Cymru
  • CNC yn anelu at leihau effaith amgylcheddol yr haenau plastig a bagiau cryfion a
    ddefnyddir i warchod gwreiddiau coed
  • Canfuwyd cyfleoedd yn unol â’r Hierarchaeth Wastraff: lleihau, ailddefnyddio,
    ailgylchu
  • Argymhellwyd dull ‘partneriaeth arloesi’ er mwyn elwa o arloesi cynnyrch
    yn y dyfodol

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-cnc-caffael-coed-yn-gynaliadwy-astudiaeth-achos-2021.pdf

    PDF, 675.95 KB

    Lawrlwytho

Tagiau