Paratowyd y ddogfen hon ar gyfer timau caffael, uwch reolwyr, gwasanaethau caffael, rheolwyr cyfleusterau a gweithredol, aelodau etholedig a thimau gwastraff llywodraeth genedlaethol a lleol, iechyd, addysg, y gwasanaethau brys a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Mae’n cynnig gwybodaeth sylfaenol y gall cyrff cyhoeddus yng Nghymru ei ddefnyddio ar gyfer mynd i’r afael ag effaith amgylcheddol plastig.

Gall yr wybodaeth a ddarperir yma gefnogi cyrff cyhoeddus i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a sicrhau nad yw dewisiadau caffael yn arwain at ganlyniadau anfwriadol (fel mwy o wastraff bwyd neu allyriadau carbon, neu halogi ffrydiau ailgylchu gyda deunyddiau anaddas). Er mai ar blastigion untro a phlastigion pacio y mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio, mae’n cynnwys prosesau ac adnoddau syml y gall sefydliadau eu defnyddio i oleuo gwneud penderfyniadau a dewisiadau prynu mewnol ar gyfer pob deunydd sy’n cynnwys plastig ac i gyflawni atebion sy’n briodol i’r cyd-destun a’r lleoliad.

Cefnogi caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • WRAP-canllaw-caffael-2019.pdf

    PDF, 4.22 MB

    Download

Tags