Drwy gymorth wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus, mae WRAP Cymru wedi datblygu canllawiau newydd sy’n rhoi trosolwg o gostio oes gyfan (whole life costing/WLC) a sut y gall helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru gyflawni eu nodau caffael cynaliadwy.

Mae cyrff cyhoeddus yn ymrwymedig i gyflawni targedau Sero Net a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Fel caffaelwyr cydwybodol, mae’r sector cyhoeddus yn ymdrechu i alinio penderfyniadau prynu â deddfwriaeth caffael. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i’r rhai sy’n caffael ddangos sut mae eu penderfyniadau prynu’n ystyried effeithiau amgylcheddol dros hyd oes cynnyrch neu wasanaeth a helpu i gyflawni Nodau Llesiant Cymru.

Mae’r rhai sy’n caffael yn ceisio mabwysiadu strategaethau sy’n blaenoriaethu cadwyni cyflenwi cynaliadwy i leihau effaith amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys ail-werthuso’r angen am bryniant newydd, pwysleisio ailddefnyddio, atgyweirio, ac ailgynhyrchu, ac ymestyn hyd oes nwyddau drwy brydlesu a chynnal a chadw. Mae’r newid hwn nid yn unig yn lleihau allyriadau carbon, ond hefyd yn creu canlyniadau cymdeithasol cadarnhaol a manteision economaidd.

Mae’r canllaw hwn yn darparu cyflwyniad i Gostio Oes Gyfan (WLC), a gyfeirir ato hefyd fel Costio Cylch Oes (Life Cycle Costing/LCC), proses o amcangyfrif costau ar hyd oes cyfan nwyddau. Mae WLC yn cynnwys allanoldebau, fel allyriadau carbon, mewn gwerthusiad o’r gost gyfan. Yn syml, gall WLC gynnwys:

  • Pris prynu a chostau cysylltiedig (danfon, gosod, yswiriant, ac ati)
  • Costau gweithredu (ynni, tanwydd, defnyddio dŵr, cydrannau sbâr, cynnal a chadw)
  • Costau diwedd oes neu werth gweddilliol (refeniw o werthu’r eitem)
  • Allanoldebau, fel allyriadau carbon a grëir drwy gydol oes yr eitem.

Darganfyddwch sut gall Costio Oes Gyfan gryfhau’r achos busnes dros arferion caffael cynaliadwy.  Lawrlwythwch y ddogfen ganllaw isod.

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • Cyflwyniad i Gostiad Oes Gyfan

    PDF, 2.37 MB

    Download

Tags