Canllaw Caffael Cylchol
Gyda chymorth a ariennir gan Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus, mae WRAP wedi datblygu canllaw caffael cylchol newydd ar roi ail fywyd i ddodrefn.
Mae strategaeth Mwy Nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru yn anelu at wneud yr economi gylchol yn realiti yng Nghymru, cyflawni sero net, a sbarduno’r newid tuag at economi gylchol sy’n fwy cynaliadwy ac yn effeithlon gydag adnoddau. I gyflawni hyn, mae angen inni sicrhau cynnydd dramatig yn faint o ddeunyddiau sy’n cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu, a lleihau ein dibyniaeth ar ddeunyddiau crai.
Mae’r canllaw hwn yn cynnig camau ymarferol i dimau caffael eu cymryd i gaffael dodrefn ail fywyd. Dylid asesu nwyddau dodrefn nid yn unig ar bris a pherfformiad, ond hefyd ar eu heffaith amgylcheddol a chymdeithasol. Dull caffael sy’n canolbwyntio ar gost cylch oes, sy’n ystyried effaith gydol oes y nwyddau, o echdynnu’r deunyddiau crai hyd waredu’r cynnyrch yn y pen draw. Gellir defnyddio’r canllaw hwn i gyfeirio ato yn y broses gaffael gyfan, ac ar unrhyw adeg yn ystod y broses honno.
Download files
By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.
These files may not be suitable for users of assistive technology.
-
Rhoi Ail Fywyd i Ddodrefn – Canllaw Caffael Cylchol.pdf
PDF, 5.49 MB