Crynodeb

Mae effeithiau amgylcheddol yn gynyddol bwysig wrth gaffael gwasanaethau llaeth mewn ysgolion a rhaid eu hystyried ynghyd â chost y contract a meini prawf caffael eraill.

Bu WRAP Cymru’n gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy i adolygu’r dewis roedden nhw wedi’i wneud i newid o boteli llaeth plastig untro i boteli llaeth gwydr ailddefnyddiadwy.  

Fel rhan o’r adolygiad, archwiliwyd opsiwn arall hefyd – system pergal, sy’n cadw symiau mawr o laeth mewn cynhwysydd sy’n ffitio mewn oergell gyflenwi.

Datblygwyd model i amcangyfrif yr effeithiau cost a charbon a oedd yn gysylltiedig â phob un o’r tri math o gynhwysyddion llaeth. Dangosodd y canfyddiadau fod poteli llaeth gwydr a’r system pergal ill dau’n cynnig lleihad mewn allyriadau carbon a chostau is yn gyffredinol.

Ffeithiau Allweddol

  • Roedd newid o boteli llaeth plastig untro i boteli llaeth gwydr ailddefnyddiadwy yn gwneud i ffwrdd â gwastraff plastig ac yn lleihau gwastraff llaeth.

  • Roedd gwastraffu llai o laeth yn golygu archebu llai o laeth, a arweiniodd at arbedion cost o 39% i’r awdurdod lleol.

  • Amcangyfrifir fod y newid hefyd wedi arwain at leihau allyriadau tŷ gwydr gan 25%.

Cefnogi caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • WRAP-opsiynau-pecynnu-llaeth-ar-gyfer-ysgolion-sir-fynwy-2020.pdf

    PDF, 314.65 KB

    Download

Tags